Datganoli yn hawlio sylw'r pleidiau

Datganoli

Bydd datganoli ac arianu Cymru yn dwyn sylw'r pleidiau gwleidyddol ddydd Sul wrth i'r ymgyrchu etholiadol barhau.

Bydd y blaid Lafur yn tanlinellu eu cynlluniau ar gyfer datganoli i Gymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio, datganoli'r hawl dros ffracio i Gymru, a grymoedd dros drafnidiaeth yn cynnwys cytundebau i redeg y rheilffyrdd, porthladdoedd, cyfyngderau cyflymder gyrru a rheoleiddio bysiau a thacsis.

Dywed y blaid y bydd hefyd yn cynnig "arianu teg i Gymru" trwy sicrhau trothwy isafswm arianu dan fformiwla Barnett. Byddai hyn yn golygu na fyddai gwariant ar Gymru yn gostwng islaw lefel arbennig fydd yn cael ei osod.

"Pennod newydd"

Dywedodd Owen Smith, llefarydd yr wrthblaid ar Gymru: "Mae'r argymhellion hyn yn gosod penod newydd hanesyddol yn siwrne datganoli Cymru, gan greu setliad parhaol fydd yn ein galluogi i hybu cyfiawnder cymdeithasol, gwella cydraddoldeb cyfleoedd a chreu cymdeithas decach i bawb."

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cyflwyno eu cynlluniau arianol ar gyfer cyfnod y llywodraeth nesaf. Dywed y blaid y bydd hefyd yn cyflwyno trothwy isafswm arianu Cymru dan fformiwla Barnett, fydd yn adlewyrchu anghenion y wlad. Fe fydd hefyd yn comisiynnu ymchwil i ddiweddaru darganfyddiadau Comisiwn Holtham ar arianu datganoli.

Bum mlynedd yn ôl fe wnaeth yr economegydd Gerry Holtham amcangyfrif fod £300m yn ddyledus i Gymru. Fe fyddai'r blaid wedyn yn ceisio sicrhau lefel deg o arian i Gymru yn dilyn y gwaith ymchwil newydd.

"Cytundeb teg"

Dywedodd Jenny Willot, sydd yn ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae hyn yn ymwneud a Chymru yn cael cytundeb teg. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydnabod nad yw Cymru yn cael digon o arian, ond fe fyddwn yn cymryd camau ymarferol i gywiro hyn. Ni yw'r unig blaid sydd wedi dweud y byddwn yn gwneud hyn."

Yn ôl Ian Johnson, sydd yn ymgeisydd ar ran Plaid Cymru ym Mro Morgannwg: "Pan wnaeth pleidiau'r DU arwyddo llw yn nyddiau olaf refferendwm yr Alban, fe wnaethon nhw ymrwymo eu hunain i barhau gyda'r tan-wario ar Gymru.

"Ateb anelwig"

"Nid yw trothwy isafswm Barnett yn creu unrhyw adnoddau ychwanegol i Gymru o gwbl. Ar y gorau fe fydd yn stopio'r sefyllfa rhag gwaethygu, ond fydd o ddim yn gwneud y sefyllfa'n well. Ni fydd yn cynnig arianu teg i Gymru. Ateb anelwig yw hwn ac mae holl bleidiau San Steffan nawr yn trafod trothwy bum mlynedd yn hwyrach nag y dylai fod wedi cael ei weithredu.

"Mae'r mwyafrif o'r cyhoeddiad heddiw wedi ei weithredu yn barod fel y lleiafswm isaf o'r hyn y dylai Cymru ei dderbyn, ac mae'n parhau i fod yn llai na'r hyn sydd yn cael ei gynnig i'r Alban. Bydd Plaid Cymru yn ymladd i gynnig tecwch arianu a chyfrifoldeb i Gymru gyda'r Alban. Nid yw Cymru yn wlad eilradd, ond mae pleidiau San Steffan am i ni dderbyn setliad eilradd."