Beicio: dim llwyddiant i Thomas

Paris-Roubaix Image copyright Getty Images

Doedd dim llwydiant i'r Cymro Geraint Thomas yn ras feicio enwog y Paris-Roubaix ddydd Sul. Cafodd ras rwystredig oedd yn cynnwys sawl twll yn ei olwynion, ac fe ddaeth oddi ar gefn ei feic ar ôl i'w olwyn gyffwrdd â phalmant.

Methodd ei gyd-aelod yn nhîm beicio Team Sky, Syr Bradley Wiggins a phrofi llwyddiant yn ei ras olaf i Sky, gan orffern yn y deunawfed safle.