1,200 heb wregys diogelwch

Gwregys diogelwch
Image caption Roedd yr ymgyrch am bythefnos ym mis Mawrth

Mae'r heddlu wedi dweud nad oedd mwy na 1,200 yn gwisgo gwregys diogelwch yn ystod ymgyrch am bythefnos ym mis Mawrth.

Dywedodd Heddlu'r De fod 360 o oedolion wedi eu dal a'r nifer yn ardal Heddlu'r Gogledd oedd 140.

Llwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i ddal 716 o oedolion ac wyth o blant tra stopiodd Heddlu Gwent 41 o bobl.

Y llynedd y cyfanswm oedd 1,524 yn ystod yr un cyfnod.