Winnifred
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Bywyd newydd i hen injan stêm

14 Ebrill 2015 Diweddarwyd 08:28 BST

Cafodd hen injan stêm oedd yn arfer cael ei defnyddio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda dros ganrif yn ôl ei dadorchuddio yng ngorsaf Llanuwchllyn ar Reilffordd Llyn Tegid ddydd Llun.

Dechreuodd injan 'Winifred' yn 1885, ond ar ôl i'r gwaith o dynnu llechi ddod i ben yn y 60au bu mewn amgueddfeydd yn yr UDA am ddegawdau tan i un o gefnogwyr Reilffordd Llyn Tegid, Julien Birley, ei phrynu ar gyfer ei hadnewyddu.

Cafodd yr injan ei chludo i Lanuwchllyn yn 2012 a fyth ers hynny mae gwirfoddolwyr a gweithwyr wedi gweithio'n ddyfal i'w thrwsio, ein gohebydd Llyr Edwards fuodd yn ymweld â'r Winni.