Tân difrifol mewn fflatiau gwag yng Nghaerdydd

tan mewn fflat Image copyright Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru
Image caption Mae'n debyg fod y bloc fflatiau yn wag ar y pryd

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn ymladd tân difrifol mewn fflat yng Nghaerdydd heno.

Cawsant eu galw i'r eiddo yn Llanrhymni am 18:30 yn dilyn adroddiadau fod tân mewn fflat ar y pedwerydd llawr.

Roedd pedwar criw a pheiriant ysgol awyr yn bresennol.

Y grêd yw nad oedd unrhyw un yn bresennol yn yr eid, ac nad oes unrhyw anafiadau.