Ceidwadwyr Cymreig yn ymosod ar record Llafur ar iechyd

Ysbyty
Image caption Mae iechyd yn fater pwysig i etholwyr, medd y Ceidwadwyr Cymreig

Mae Llafur wedi bod yn "hollti'r" gyllideb iechyd yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, gan arwain at "restrau aros eithriadol o hir".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies fod iechyd, er wedi'i ddatganoli, yn un o'r prif faterion i bleidleiswyr.

"Ble bynnag yr ewch chi yng Nghymru mae pobl yn siarad am y gwasanaeth iechyd, a Llafur sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yng Nghymru," meddai.

Mae Llafur wedi ymateb trwy ddweud nad yw ffigyrau'r Ceidwadwyr "yn gwneud unrhyw synnwyr".

'Penbleth'

Dywedodd Mr Davies y byddai ei blaid yn amddiffyn gwariant ar iechyd ac yn cyflwyno cronfa gyffuriau canser.

Fe wnaeth o amddiffyn penderfyniad ei blaid i ymgyrchu ar faes polisi nad oedd yn cael ei reoli yn San Steffan.

"Mae Ed Miliband [arweinydd Llafur] wedi defnyddio'r esiampl o 'gymharu a chyferbynu', ac rwy'n credu ei bod yn hollol resymol cyfeirio at y ffaith nad oes gennym ni gronfa gyffuriau canser yng Nghymru a rhai o'r amseroedd ambiwlans gwaetha' ar gofnod," ychwanegodd.

"Mae 'na benbleth go iawn i bleidleiswyr ym mis Mai. Ydyn nhw eisiau pleidleisio dros y blaid Geidwadol sydd eisiau amddiffyn gwariant ar iechyd neu ydyn nhw eisiau cefnogi plaid sydd wedi torri'n ddramatig ar ddarpariaeth iechyd yng Nghymru?"

'Dewis clir'

Ond mae Dirprwy Weinidog Iechyd Llafur yng Nghymru, Vaughan Gething, wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o fod eisiau preifateiddio'r gwasanaeth iechyd.

"Mae'r Ceidwadwyr wedi cael tri chyfle yn yr ymgyrch hyd yn hyn i ddiystyru preifateiddio'r gwasanaeth iechyd ac maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r etholiad yma'n ddewis clir rhwng llywodraeth Lafur fyddai'n buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd er mwyn hyfforddi 1,000 o feddygon, nyrsys a staff rheng flaen, neu lywodraeth Geidwadol fyddai'n cyflwyno treth tabledi i bobl sâl ac yn preifateiddio gwasanaethau iechyd."

Yn y cyfamser, mae Llafur wedi addo rhagor o bwerau i Gymru ym meysydd cludiant, ynni ac etholiadau cynulliad yn eu maniffesto Prydeinig, a gafodd ei lansio ym Manceinion ddydd Llun.

Canllaw maniffestos: Iechyd a gofal

Pwnc etholiadol allweddol ar gyfer nifer o bleidleiswyr, mae hyn yn cynnwys cyllid y gwasanaeth iechyd, mynediad i feddygon teulu a gofal cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn.

Rhagor o ymgyrchu

Wrth barhau â'u hymgyrchu nhw ddydd Llun, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, y byddai ei phlaid yn sicrhau gwell gofal iechyd yng nghefn gwlad.

Wrth ymweld â seddi targed yng nghanolbarth Cymru, dywedodd Ms Williams fod ei phlaid eisiau buddsoddi mewn ysbytai bach lleol a gofal cymunedol.

"Mae angen canolfan ofal ar frys yn Sir Drefaldwyn os ydyn ni am leddfu'r pwysau ar adrannau brys a chwtogi amseroedd aros," meddai.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r pleidiau eraill o esgeuluso'r economi yng ngogledd Cymru.

Dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: "Mae gan bob cymuned rôl i'w chwarae wrth sicrhau llwyddiant i'n gwlad ac mae'n bryd i ogledd Cymru gael y buddsoddiad a'r weledigaeth mae'n haeddu gan lywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain."

Canllaw maniffestos: Economi

Pwnc etholiadol allweddol ar gyfer nifer o bleidleiswyr, mae hyn yn cynnwys yr economi ehangach a lleihau'r diffyg ariannol, cyflogaeth a rôl byd busnes.

Roedd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, yn ymgyrchu ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.

Wrth siarad â BBC Cymru, fe ddywedodd fod system lles Prydain yn rhoi arian i weithwyr ar draws y byd.

"Mae nifer helaeth o fewnfudwyr yn anfon eu henillion adre', sy'n tynnu arian allan o'n heconomi leol.

"Mae llawer o bobl yn gweithio'r isafswm oriau sydd ei angen i hawlio Credyd Treth Gwaith. Rydyn ni'n ariannu gweithwyr o ar draws y byd. Mae'r system yn anghywir."