Cysylltiadau Cymreig y Titanic

Titanic Image copyright National museums northern ireland

Roedd hi'n un o longau mwyaf moethus a modern ei chyfnod ond â hithau ar ei mordaith gyntaf fe suddodd y Titanic.

Er mai rhwng Southampton ac Efrog Newydd yr oedd hi yn teithio pan darodd y llong yn erbyn craig o iâ ar 14 Ebrill 1912 mae 'na sawl cysylltiad Cymreig gydag un o drychinebau morwrol mwya'r byd.

Glo o Gymru:

Mae'n debyg mai o un o byllau glo'r De y daeth dros dri chwarter y tanwydd oedd yng nghrombil y Titanic yn bwydo ei injans stêm.

Roedd glowyr Prydain ar streic yn y cyfnod cyn i'r llong hwylio, ac roedd rhai o byllau de Cymru ymhlith yr ychydig rai oedd yn parhau i weithio ar y pryd.

Mae'n debyg bod prinder glo yn y porthladd yn Southampton ar ddiwrnod lansio'r Titanic, ond mi wnaeth cwmni White Star yn siŵr y byddai'n cychwyn ar ei thaith ar amser drwy gymryd glo o longau eraill.

Y Bocswyr:

Ymhlith y Cymry oedd yn teithio i America roedd y bocswyr David John (Dai) Bowen, 21, o Dreherbert yn y Rhondda a Lesley Williams, 24 oed o Donypandy.

Roedden y ddau gyn-löwr wedi prynu eu tocynnau trydydd dosbarth yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd gan gwmni teithio Dean & Dawnson.

Roedden nhw'n edrych ymlaen i sawl gornest bocsio oedd wedi eu trefnu ar eu cyfer. Fe wnaethon nhw dalu £16 2s i gychwyn ar eu hantur fawr o Southampton ar Ebrill 10, 1912.

Dai Bowen oedd pencampwr bocsio pwysau pluen Cymru ac mewn llythyr at ei fam ar ôl dechrau ar y fordaith fe roddodd ddisgrifiad trawiadol o'r Titanic:

"Mae hon yn llong hyfryd, mae hi bron iawn mor fawr â Threherbert..."

Bocsiwr pwysau bantam oedd Lesley Williams, ac yn briod gydag un mab. Fel Dai Bowen roedd yn cael ei ystyried yn focsiwr addawol.

Cafodd corff Lesley Williams ei ddarganfod gan y 'Mackay-Bennett' - y llong gafodd y dasg o chwilio am gyrff y meirw.

Mae corff Dai Bowen yn dal ar goll.

Image caption Harold Lowe

Harold Lowe: 'Y swyddog a aeth yn ôl'

Y Cymro mwyaf adnabyddus sy'n cael ei gysylltu gyda'r hanes yw'r 'dyn a aeth nôl', Harold Lowe.

Cafodd ei bortreadu gan Ioan Gruffudd yn y ffilm 'Titanic' yn 1997.

Un o'r Bermo oedd Lowe a aeth i'r môr yn 14 oed gan ennill dyrchafiad i ddod yn bumed swyddog ar y Titanic. Er ei fod yn forwr profiadol erbyn hynny, hon oedd ei daith gyntaf ar draws yr Iwerydd.

Pan darodd y llong y mynydd iâ, roedd Lowe yn cysgu. Ond unwaith iddo ddeffro, aeth ati i helpu i lenwi'r badau achub gyda merched a phlant, yn ôl y drefn ar y pryd.

Cymerodd reolaeth o fad achub rhif 14, a'i rwyfo i ddiogelwch, ryw 150 llath o'r llong.

Image copyright Wikipedia
Image caption Ioan Gruffudd chwaraeodd ran Lowe yn 'Titanic' (1997)

Ond yn wahanol i'r swyddogion yn y badau eraill, penderfynodd fynd nôl at y llong oedd yn suddo.

Ar ôl sicrhau fod ei deithwyr yn ddiogel, arhosodd i'r sgrechfeydd ostegu cyn mentro nôl gyda gwirfoddolwyr eraill drwy'r dyfroedd oer llawn cyrff i chwilio am bobl oedd yn dal yn fyw yn y dŵr.

Llwyddodd i achub pedwar o bobl o'r dŵr, ond ar ei ffordd tuag at ddiogelwch y Carpathia, gwelodd ddau gwch gwynt yn llawn pobl; clymodd un i'w fad a'i thywys y tu ôl iddo a throsglwyddodd 20 o bobl o'r llall i'w fad ei hun ac i ddiogelwch.

Image caption Fe gwrddodd Thomas Jones â Iarlles Rothes ar fâd achub y Titanic, a pharhau'n ffrindiau mawr.

Thomas William Jones

Roedd Thomas William Jones o Dregele, Ynys Môn yn 32 oed pan ymaelododd yn aelod o griw y Titanic.

Cafodd ei roi yng ngofal bâd achub Rhif 8 oedd yn cynnwys 35 o ferched wrth ceisio dianc o'r llong.

Wedi i'r cwch suddo, roedd Mr Jones, ynghyd â Iarlles a dau arall ar y cwch, eisiau dychwelyd i achub y rhai oedd yn y dŵr ond fe gawson nhw eu hatal gan eraill ar y cwch.

Yn ôl bob son, roedd Jones yn edmygu Iarlles Rothes yn fawr iawn, ac fe wnaethon nhw barhau'n ffrindiau am weddill eu bywydau.

Yn wir, fe roddodd e blât efydd rhif adnabod y cwch iddi, ac fe gyflwynodd hithau oriawr iddo i ddiolch am achub ei bywyd.

Image copyright Glyn jones
Image caption Yma y gwrandawodd Artie Moore ar y i signal i nodi fod argyfwng. Y Cymro oedd un o'r cyntaf i glywed am dynged y llong

Artie Moore:

Mewn 'stafell yn nho ei gartref ym Mhontllanffraith ger y Coed Duon yn oriau mân y bore ar Ebrill 15 1912, sylwodd Artie (Arthur) Moore ar signal gwan yr oedd yn ei dderbyn ar offer radio roedd wedi ei adeiladu ei hun.

Neges SOS gan y Titanic oedd y signal yn dweud ei bod yn suddo. Aeth Artie yn syth i'r orsaf heddlu leol ym Mhontllanffraith ond cafodd ei wfftio gan y swyddogion yno - roedd ei honiad ei fod wedi derbyn neges "drwy'r awyr" yn anghrediniol iddyn nhw.

Ond ddeuddydd wedyn, cyrhaeddodd y newyddion am y Titanic. Ar y pryd, roedd peirianneg radio yn dal yn ei fabandod a doedd neb yn sylweddoli y gallai signal di-wifr deithio dros bellteroedd mor fawr, dros 3000 o filltiroedd y noson honno.

Cafodd y peiriannydd amatur argraff fawr ar Marconi a daeth i'w weld yn ei gartref a chynnig swydd iddo yn ei gwmni: aeth Artie Moore ymlaen i ddyfeisio ffurf cynnar o sonar.

Lowri Morgan:

Cafodd y cyflwynydd a'r anturiaethwraig eithafol, Lowri Morgan, y fraint o blymio i ddyfnderoedd y môr i weld gweddillion y Titanic, rhyw 400 milltir o Newfoundland, Canada. Dim ond ychydig dros 100 o bobl sydd wedi gwneud hynny erioed.

Meddai:

"Mae pawb yn ymwybodol o drychineb y Titanic ond wrth i mi edrych yn ddyfnach ar y stori ac ar ddylanwad Cymru a'r Cymry ar daith y llong, sylweddolais pa mor anhygoel yw'r cysylltiadau Cymreig.

"Roedd y boneddigion a boneddigesau ar fwrdd y llong yn bwyta ar lestri arian a ddaeth o Gymru ac mi foddodd Capten Edward Smith efo'i long - ond does dim llawer o bobl yn gwybod fod gan ei deulu gysylltiadau â Chymru."

Image caption Sgerbwd y Titanic ar waelod y môr