Cyllid Cymru: 'Angen refferendwm'

David CAmeron
Image caption Fe wnaeth y Ceidwadwyr lansio eu maniffesto Prydeinig ddydd Mawrth

Byddai lefel isafswm cyllid ond ar gael i Lywodraeth Cymru unwaith i refferendwm gael ei gynnal ar ddatganoli treth incwm, pe bai'r Ceidwadwyr yn dod i rym.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn cael mwy o wariant cyhoeddus y pen na Lloegr.

Yn ôl y Ceidwadwyr dylai'r fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio i osod yr union ffigwr ar gyfer Cymru - Fformiwla Barnett - gael ei amrywio i sicrhau nad yw'r cyfanswm yn syrthio yn rhy isel.

Ond yn eu maniffesto Prydeinig gafodd ei lansio dydd Mawrth, dywed y Ceidwadwyr y byddai newid o'r fath yn digwydd unwaith i Lywodraeth Cymru gyhoeddi refferendwm ar ddatganoli treth incwm.

Dyw'r Ceidwadwyr heb gyhoeddi beth yw'r ffigwr isafswm fyddai'n cael ei osod.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Llywodrath Glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol gytuno y byddai'r newidiadau yn digwydd "gan ddisgwyl" y byddai gweinidogion Bae Caerdydd yn galw am refferendwm.

Gwariant

Ond mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud yn gyson nad yw'n teimlo fod yna gysylltiad rhwng y ddau bwnc.

Mae o wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o alw refferendwm cyn bod cytundeb yn gyntaf ar y cwestiwn cyllido.

Mae Llafur wedi dweud y byddan nhw'n cyflwyno isafswm gwariant ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond nid ydyn nhw'n dweud beth yn union fyddai'r ffigwr.

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y byddan nhw'n sefydlu comisiwn annibynnol i ymchwilio i'r trefniadau presennol, gyda'r bwriad o godi lefel y gwariant.

Mae Plaid Cymru wedi galw am £1.2 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng Cymru a'r Alban.

Dywed UKIP y byddan nhw'n dileu Fformiwla Barnett a'r y trefniadau gwaraint presennol.