Caniatâd i rwystrau ar ffordd yn Abertawe

Ffordd y Brenin Image copyright Google
Image caption Bu farw Sarjant Louise Lucas ar ol iddi gael ei tharo gan fws ar Ffordd y Brenin ar 31 Mawrth

Mae Cyngor Abertawe wedi caniatáu rhwystrau dros dro ar Ffordd y Brenin yn y ddinas wedi damwain bws laddodd blismones.

Bu farw Sarjant Louise Lucas ar ôl iddi gael ei tharo gan fws ar y ffordd ar 31 Mawrth.

Mae galwadau wedi bod am "weithredu brys" i wella diogelwch.

Fe wnaeth y cabinet hefyd gymeradwyo cynllun fydd yn rhwystro traffig i gyfeiriad y dwyrain ar y lôn fysiau.

Ar hyn o bryd mae traffig yn teithio i un cyfeiriad ar un ochr y ffordd ddeuol ac i'r ddau gyfeiriad ar yr ochr arall.

Y Comisiynydd Traffig fydd yn gorfod cytuno ar unrhyw newidiadau i lwybrau bysiau yn y ddinas.