Cynghorydd yn gwadu ymosodiad rhyw

Llys Ynadon Hwlffordd
Image caption Roedd yr achos yn Llys Ynadon Hwlffordd

Mae cynghorydd Cyngor Bro Morgannwg wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymosodiad rhyw ar ferch 17 oed ar Ynys Sgomer ger arfordir Sir Benfro.

Ymddiswyddodd Rob Curtis, 50 oed, o gabinet Cyngor Bro Morgannwg, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan yr achos ym mis Gorffennaf.

Yn Llys Ynadon Hwlffordd roedd honiadau bod y diffynnydd o'r Barri wedi cyffwrdd â'r ferch yn amhriodol.

Roedd wedi dweud ei fod yn gadael swydd y cabinet er mwyn canolbwyntio ar fod yn drydanydd yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.