Ipswich 3-1 Caerdydd

Russell Slade Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth tymor anghyson Caerdydd barhau nos Fawrth wrth iddyn nhw golli o 3-1 yn Ipswich.

Freddie Sears sgoriodd y gôl gyntaf i'r tîm cartref wrth i'w ergyd o du fewn i'r cwrt cosbi guro David Marshall i'w ochr chwith.

Roedd Caerdydd yn gyfartal o fewn pum munud wrth i Eoin Doyle gyfarfod croesiad Scott Malone i benio i'r rhwyd.

Aeth Ipswich yn ôl ar y blaen cyn yr hanner wrth i ergydiad Cole Skuse o du allan i'r cwrt cosbi ddarganfod cornel dde'r rhwyd.

Bu rhaid i'r tîm cartref ddisgwyl nes y munud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth, wrth i Daryl Murphy sgorio ar ôl diwedd y 90.

Golygai'r canlyniad bod yr Adar Gleision yn disgyn i'r 13eg safle yn y Bencampwriaeth gyda thair gêm yn weddill nes diwedd y tymor.