Southend 2-0 Casnewydd

Southend a Chasnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Casnewydd golli eu trydedd gêm yn olynol nos Fawrth, wrth i fuddugoliaeth Southend o 2-0 adael y clwb o dde Cymru dri phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.

Cipiodd y tîm cartref gôl gyntaf y gêm reit cyn yr hanner wrth i Cian Bolger benio croesiad Will Atkinson i'r rhwyd.

Ychwanegodd Southend gôl arall ar yr ochr arall i hanner amser pan wnaeth ergyd Stephen McLaughlin o du fewn i'r cwrt cosbi guro Joe Day yn y gôl i Gasnewydd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd dri phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle yn Adran 2, gyda dim ond tair gêm ar ôl cyn diwedd y tymor.