Welling 2-1 Wrecsam

Wrecsam Image copyright Huw Evans picture agency

Fe gollodd Wrecsam am y tro cyntaf ers i'w rheolwr adael y clwb wrth iddyn nhw gael eu trechu o 2-1 yn Welling nos Fawrth.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o fewn saith munud wrth i Sam Berry gyfarfod croesiad Dominic Vose i benio pasio Andy Coughlin i'r rhwyd.

Roedd hi'n edrych fel bo'r canlyniad wedi ei setlo yn barod wedi dim ond 20 munud wrth i Dominic Vose ychwanegu ail i Welling.

Fe sgoriodd yr ymosodwr Andy Bishop i'r ymwelwyr gyda 10 munud yn weddill i'w gwneud yn ddiweddglo diddorol i'r gêm,

Dyma'r tro cyntaf i Wrecsam golli mewn pum gêm ers i'w rheolwr Kevin Wilkin adael y clwb ar 30 Mawrth.