Llafur yn addo £375m ychwanegol i Gymru ar ôl Etholiad

Owen Smith
Image caption Dywedodd Owen Smith y byddai Cymru'n elwa o dan Lafur

Fe fyddai Cymru yn derbyn £375m yn ychwanegol os yw Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol, yn ôl llefarydd y blaid ar Gymru.

Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Owen Smith y byddai'r arian yn dod o gynllun i gynyddu trethi ar y rhai mwyaf cyfoethog mewn cymdeithas, gan gynnwys 'treth ar blastai' ar gyfer tai sydd werth dros £2m.

Dywedodd y byddai Llafur hefyd yn gwarantu isafswm cyllideb i Gymru, mewn perthynas gyda gwariant yn Lloegr, dan fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio gan y Trysorlys.

Yn siarad ar Raglen Jason Mohammad, dywedodd: "O dan Llafur, yn ogystal â chadarnhau'r isafswm cyllid yma, oherwydd newidiadau rydyn ni'n eu cyflwyno i'r system drethu - rydyn ni'n mynd i roi £375m ychwanegol i Gymru.

"Drwy weithio hynny allan dros y cyfnod - mae o leiaf £1bn dros y cyfnod gwariant."