Etholiad 2015: Addewid 'gwrth-lymder' CULS

Image caption Mae'r CULS yn dweud eu bod yn cynnig "opsiwn gwahanol" i'r prif bleidiau

Mae'r Glymblaid Undebau Llafur a Sosialaidd (CULS) yn lansio eu hymgyrch yng Nghymru yn ddiweddarach, gan addo codi'r lleiafswm cyflog ac i roi diwedd ar lymder.

Mae CULS yn cystadlu am 135 o seddi ledled y DU, a 12 o'r 40 yng Nghymru.

Dywedodd ymgeisydd y blaid, Ross Saunders bod y blaid yn cynnig "opsiwn gwahanol am wrth-lymder ar gyfer pobl gyffredin".

Mae polisïau CULS yn cynnwys codi'r lleiafswm cyflog o £6.50 i £10 yr awr, cael gwared ar ffioedd prifysgol a chyflwyno rheolau rhentu.

"Mae'r Torïaid a'r Rhyddfrydwyr wedi diffeithio gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, ond mae Llafur yng Nghymru yr un mor wael - yn torri gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd hyd yn oed mwy na'r Torïaid yn Lloegr," meddai Mr Saunders.

"Y gwir yw bod y pedair plaid fwyaf - Llafur, y Toriaid, y Democratiaid Rhyddfrydol a UKIP - oll yn bwriadu torri gwariant cyhoeddus i geisio cydbwyso'u cyllideb trwy orfodi pobl gyffredin i dalu, er mai'r bancwyr wnaeth hyn i'r economi.