Damwain Tredegar: Cyhoeddi enw dyn 76 oed fu farw

Y Promenâd Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble bu farw'n ddiweddarach

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 76 oed fu farw ar ôl cael ei daro gan gar ym Mlaenau Gwent.

Bu farw John Ernest Roach wedi'r gwrthdrawiad gyda char Mazda ar y Promenâd yn Nhredegar am 09:45 fore Mawrth.

Fe wnaeth y dyn ddioddef anafiadau difrifol i'w ben a chafodd ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble bu farw'n ddiweddarach.

Mae dyn lleol 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal. Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.