O ble daw cefnogaeth UKIP yng Nghymru?

Nigel Farage

Wedi'r etholiad Ewropeaidd y llynedd fe ddaeth hi'n amlwg iawn nad plaid Seisnig yn unig oedd UKIP bellach.

Mewn canlyniad wnaeth hyd yn oed synnu eu harweinydd Nigel Farage, fe ddaeth UKIP o fewn trwch blewyn i guro'r blaid Lafur, gan ddod yn gyntaf neu yn ail ymhob rhan o Gymru.

Cyn hynny roedd eu perfformiad yng Nghymru wastad yn llawer gwanach nag yn Lloegr, gyda'u cefnogaeth o gwmpas 7-8% yn yr arolygon barn.

Ond yn yr etholiad hwnnw, fe dderbyniodd y blaid 28.1% o'r bleidlais.

Yn amlwg roedd etholiad Ewropeaidd, gyda system bleidleisio gyfrannol, wastad yn mynd i fod yn dir ffrwythlon i UKIP a'u neges gwrth-Ewropeaidd, felly dyw o ddim yn syndod bod eu cefnogaeth wedi disgyn yn reit sylweddol o'r lefel uchel yna.

Mae'r arolwg diweddaraf yng Nghymru yn eu rhoi nhw ar 13%, ond mae hynny yn dal yn well na Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond o ble y daw eu cefnogaeth yng Nghymru?

Cartref naturiol y bleidlais brotest?

Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae ymchwil yn dangos mai yn wahanol i'r stereoteip nid "dynion clwb golff" ydyn nhw i gyd.

"Mae cryn dipyn o gefnogaeth UKIP yn dod gan bobl sy'n teimlo eu bod nhw wedi eu gadael ar ôl yn economaidd.

"Ac mae gennym ni gryn dipyn o bobl fel yna yng Nghymru.

"Mae eu llwyddiant hefyd yn adlewyrchu diffyg llwyddiant y pleidiau sefydliadol i berswadio pobl fel yna, bod ganddyn nhw atebion effeithiol i'w problemau."

Wrth bortreadu eu hunain fel cartref naturiol i'r bleidlais brotest mae'n deg dweud nad y Ceidwadwyr yn unig fydd yn dioddef o ganlyniad i boblogrwydd UKIP yng Nghymru, fe fydd y blaid Lafur hefyd yn siŵr o golli nifer sylweddol o bleidleisiau iddyn nhw.

Felly fe fydd nid yn unig yn werth cadw golwg ar sut y bydd UKIP yn ei wneud mewn seddi Ceidwadol fel Y Fro ac Aberconwy, ond hefyd mewn seddi traddodiadol Llafur fel Alun a Glannau Dyfrdwy, Merthyr ac Ynys Môn.

Image caption Yn ôl Nathan Gill byddai ennill 2-3 sedd yng Ngymru yn "ganlyniad ffantastig" i'r blaid.

'Hynod addawol'

Am y tro cyntaf mae ganddyn nhw ymgeisydd ymhob etholaeth ac yn ôl eu harweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, byddai 2-3 sedd yn "ganlyniad ffantastig" i'r blaid.

"Da ni wir yn credu bod gennym ni gyfle yma yng Nghymru" meddai.

"Mae yna seddi penodol ble da i'n gweithio'n galed ac mae'r ymateb da ni'n ei gael yn hynod addawol. Da ni ddim yn dweud hyn yn ysgafn - cadwch eich llygaid ar Gymru. Oherwydd mae Cymru mor UKIP ag unrhyw ran arall o Brydain."

Ond fel mae Roger Scully yn esbonio, fe fydd hi'n anodd iawn iddyn nhw gipio seddi mewn system cyntaf i'r felin.

"Yn realistig fe all UKIP ddisgwyl i gynyddu yn sylweddol ar gyfran y pleidleisiau y cawson nhw yn 2010. Maen nhw'n gyson wedi derbyn dros 10% o'r gefnogaeth mewn arolygon barn yng Nghymru ers dros flwyddyn nawr, ac ar adegau yn agosau at 20%.

"Ond mae'n dal i edrych yn annhebygol iawn y gallen nhw ennill sedd yng Nghymru; i wneud hynny fe fyddai'n rhaid iddyn nhw ganolbwyntio eu cefnogaeth yn ddigon effeithiol mewn un sedd benodol i guro pob plaid arall. Dwi'n amau'n fawr y bydden nhw'n gallu gwneud hynny".

Ond er bod seddi yn annhebygol, fe allen nhw ddal wneud bywyd yn anodd iawn i'r Ceidwadwr ac i'r Blaid Lafur yng Nghymru os ydyn nhw'n dwyn digon o bleidleisiau oddi wrthyn nhw. Er enghraifft, yn Ynys Môn fe allai pleidlais gref i UKIP ar draul y blaid Lafur fod o fantais fawr i Blaid Cymru.

Yn y pendraw, hyd yn oed heb seddi bydd UKIP yn gobeithio defnyddio'r etholiad hwn i adeiladu ar eu llwyddiant hyd yn hyn, cyn troi at etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf; ble mae ganddyn nhw obaith go iawn o ennill sedd, oherwydd y system fwy cyfrannol.