Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard sydd yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

A'r ymgyrch etholiadol yn ei hanterth, ychydig o syndod oedd i mi weld mai'r wythnos hon mae'r pleidiau gwleidyddol mawr wedi bod yn lansio eu maniffestos; byddwn i wedi disgwyl iddyn nhw wneud wrth i'r gwn danio i ddechrau'r ras.

Diolch i Vaughan Roderick felly am egluro ar ei flog mai'r rheswm am hyn yw'r cynnydd mawr sydd wedi bod yn ddiweddar yn y nifer o bobl sy'n defnyddio pleidlais bost, sydd yn ei dro wedi newid yr holl rythm etholiadol.

Erbyn hyn, mae'r pleidiau i gyd yn gorfod ceisio cyrraedd dau uchafbwynt yn ystod yr ymgyrch - y cyntaf wrth i'r pleidleisiau post gael eu danfon allan a'r ail ar y diwrnod ei hun.

Cwbl amherthnasol

Ac wrth i ni fynd o un arolwg barn i'r llall, yng nghanol cwympo mas a checru'r pleidiau, trafod a darogan yr arbenigwyr, mae Cris Dafis yn Golwg yn rhoi sylw i un arolwg y mae'n ei alw'n syfrdanol.

Yn ôl y Daily Mail, roedd 55% o'r rhai a holwyd o'r farn na ddylai Camilla, gwraig Charles, fyth fod yn Frenhines arnom, a dim ond 43% oedd am weld Charles yn Frenin, gyda 40% am weld y goron yn mynd yn syth i Wiliam ei fab.

Ond yn anffodus i bawb sy'n poeni am y fath bethau, cwbl amherthnasol yw'r ffigurau hyn.

Does dim ots beth yw ein barn am deulu'r Windsors.

Fel y dywed Cris, rydyn ni'n ddeiliaid iddyn nhw; dyw ein barn yn cyfri dim.

A gyda'r holl feirniadu ar wleidyddion, y condemnio a'r casáu meddai, o leiaf mae gennym ni ryw fath o lais yn eu dewis nhw.

Er gwaethaf ffaeleddau'r system wleidyddol, mae gennym ddylanwad o fath ar y sawl sy'n llywodraethu.

Image caption Duges Cernyw a Tywysog Charles

Pum munud o lonydd?

Er mwyn dianc rhag 'amryfal leisiau' yr wythnos o'r blaen, yr hyn wnaeth Meg Elis oedd mynd allan i'r ardd i gael llonydd i wneud ychydig o ysgrifennu creadigol.

Cadair, llyfr sgwennu, sbectol a diod lemon cartra - be fasa well?

Nes y daeth lori i gludo llwyth o sment i'r tŷ maen nhw'n adeiladu lawr y lôn.

Lawr y lôn gul lle na fedar lori fynd - ac mae Meg yn gwybod, achos mae wedi ista trwy'r ddrama yma o'r blaen.

Ond o'r diwedd, cafodd bum munud i ail-ddarllen dros ei gwaith.

Ond wrth iddi ddechrau sgwennu darn cymhleth, afrealaidd, oedd angen llawer iawn o ganolbwyntio i'w gael yn iawn, dyma'r dyn drws nesa yn penderfynu torri ei lawnt.

A'r ddynas lawr y lôn yn gweiddi ar ei phlant. Ac ar ei gŵr…..

Gwir ystyr 'goddefgarwch'

Pam na all pawb gyd-fyw'n oddefgar dwedwch?

Yn ôl blog Anffyddiaeth mae tybiaeth gyffredinol bod goddefgarwch yn beth da.

Os mai'r hyn a olygir yw 'cyd-fyw yn ddedwydd', mewn ffordd arwynebol, pwy all anghytuno?

Ond wrth feddwl am y peth am funud, fe sylwch nad yw'r cysyniad yn gwneud rhyw lawer o synnwyr.

Er enghraifft, beth yn union mae 'goddefgarwch' yn ei feddwl wrth ystyried agweddau tuag at bobl gyfunrywiol neu o leiafrifoedd ethnig?

Mae'r gair yn awgrymu dygymod â rhywbeth annymunol.

Os ydych yn 'goddef' grwpiau fel hynny, mae'n dilyn bod gennych broblem â nhw.

Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi fod yn rhagfarnllyd i orfod goddef o gwbl yn y cyd-destun hwn.

Os nad ydych yn meddu ar y rhagfarnau hynny, nid oes unrhyw beth i'w oddef yn y lle cyntaf.

O diar - mae'n ymddangos mai dal i gecru fyddwn ni felly, hyd yn oed ar ôl 7 Mai.