Etholiad 2015: Dadl y gwrthbleidiau

Dadl yr arweinwyr

Mae arweinwyr y gwrthbleidiau wedi gwrthdaro ynglŷn â gwariant cyhoeddus yn ystod y ddadl wleidyddol nos Iau.

Nid oedd arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, nac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn cymryd rhan yn y ddadl, a chafodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ei herio gan yr arweinwyr eraill i fod yn fwy "dewr" o ran gwariant cyhoeddus.

Mi wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, herio Mr Miliband i wrthdroi'r toriadau sydd wedi eu cyflwyno gan Mr Cameron a Mr Clegg.

Dywedodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, y byddai, mewn senedd grog, yn annog Llafur i wario mwy.

"Os nad yw Llafur yn fodlon bod yn ddewr ar eu pen eu hunain, rydw i'n meddwl y dylai pobl bleidleisio i bleidiau fydd yn sicrhau eu bod yn atebol, gan eu gorfodi i fod yn fwy dewr."

Dywedodd Ms Wood bod "pobl yn dechrau amau'r chwedl o lymder", ac nad oedd llymder a'r hen drefn wleidyddol yn anochel.

"Byddwn ni'n gweithio i greu trefn wleidyddol newydd ar gyfer pawb", meddai.

'Dyfodol ansicr'

Yn ôl Mr Miliband byddai Llafur yn cyflwyno treth ar blastai ar gartrefi gwerth mwy na £2m yn eu cyllideb gyntaf, ac yn cael gwared ar y 'dreth ystafell wely'.

Dywedodd y byddai'n "gwrthod" dadleuon y pleidiau hynny sy'n ceisio chwalu'r DU.

Ychwanegodd y byddai cynllun yr SNP i gael rheolaeth lawn dros drethi'r Alban yn golygu diffyg ariannol o £7 biliwn.

Dywedodd Leanne Wood: "Bydd parhau gyda llymder yn golygu dyfodol ansicr iawn i'r genhedlaeth nesaf."

Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage, bod cynlluniau gwariant y pleidiau eraill yn "chwerthinllyd". Yn ogystal cyhuddodd y BBC o ddewis cynulleidfa oedd yn gwyro gormod tuag at y "chwith".

"Mae'r gwir gynulleidfa gartref", meddai.

Dywedodd David Dimbleby, oedd yn cyflwyno'r digwyddiad, bod y gynulleidfa wedi'i dewis gan fudiad arolygon barn annibynnol.

'Addewidion gwag'

Mi wnaeth arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett, ddweud bod yr agenda o lymder yn "sbeitlyd".

"Y Blaid Werdd yw'r gwir gystadleuaeth, gan gynnig miliwn o swyddi newydd, mynd i'r afael â newydd hinsawdd, a diogelu gwasanaethau cymunedol hanfodol", meddai.

Mewn sylwadau eraill yn ymwneud â'r GIG, dywedodd Ms Wood wrth Mr Miliband nad oedd record y Blaid Lafur o redeg y gwasanaeth yng Nghymru "yn dda iawn".

Dywedodd Mr Miliband bod "her" yn wynebu'r GIG yng Nghymru, ond awgrymodd mai toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru - sy'n cael ei osod yn San Steffan - oedd ar fai.

Yn ogystal gofynnodd Ms Wood wrth Mr Miliband am addewid am £1.2 biliwn ychwanegol ar gyfer cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Miliband na fyddai'n gwneud "addewidion gwag".