Cwest Deepcut Cheryl James: 'Heddlu yn oedi'

Cheryl James Image copyright Other
Image caption Bu farw Cheryl James yng Ngwersyll Deepcut yn Surrey yn 1995

Mae teulu soldiwr gafodd ei darganfod yn farw yng Ngwersyll Deepcut yn Surrey wedi cyhuddo'r heddlu o geisio oedi cwest newydd i'w marwolaeth.

Bu farw Cheryl James o Langollen pan oedd hi'n 18 oed wedi iddi gael ei darganfod wedi ei saethu i'w phen yn 1995.

Y llynedd, fe enillodd ei rhieni'r hawl i gwest newydd ar ôl i reithfarn agored gael ei recordio.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Heddlu Surrey am sylw.

Ym mis Chwefror, gofynnodd gyfreithwyr yr heddlu i'r crwner gysidro os dylai cynnal y gwrandawiad ar yr un amser ac unrhyw gwest Deepcut arall yn y dyfodol, wnaeth arwain i ohirio'r achos.

'Ansensitif'

Dywedodd ei thad Des James: "Mae'n ansensitif eu bod nhw yn ei ohirio. Mae hi wedi bod yn anodd iawn i ni gyrraedd y pwynt yma.

"Fe wnes i'r camgymeriad o ymlacio a meddwl y gallwn i ei adael i'r broses gyfreithiol."

Mae Heddlu Surrey wedi gwadu yn y gorffennol mai tacteg yw oedi'r achos, a dywedon nhw eu bod wedi cynnal "cwest trylwyr" i'r farwolaeth.

Roedd Ms James yn un o bedwar soldiwr gafodd ei darganfod yn farw yng Ngwersyll Deepcut rhwng 1995 a 2002.

Cafodd ymchwiliad heddlu ei lansio i'w marwolaethau yn 2002 ar ôl pwysau gan deuluoedd oedd yn gwrthod yr awgrymiadau eu bod wedi lladd eu hunan.