Llofruddiaeth Tonypandy: Enwi'r dyn fu farw

Llofruddiaeth Tonypandy
Image caption Bu rhannau o Heol De Winton ar gau ddyd Sadwrn oherwydd y digwyddiad

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 42 oed fu farw ar ôl ymosodiad difrifol yn Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

Cafodd Wayne Letherby ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dilyn y digwyddiad ar Heol De Winton yn Nhonypandy. Bu farw'n hwyrach.

Mae'r heddlu wedi arestio pedwar o bobl mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Fel rhan o'r ymchwiliad bu rhannau o Heol De Winton ar gau ddydd Sadwrn, ac mae'r heddlu'n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.