Casnewydd 2-3 Dagenham & Redbridge

Casnewydd v Dagenham Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'n edrych yn annhebygol y bydd Casnewydd yn cyrraedd y gemau ail gyfle yn Adran 2 wedi iddyn nhw golli o 2-3 yn erbyn Dagenham & Redbridge yn Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Daeth gêm ddigynnwrf yn fyw erbyn y diwedd, gyda phum gôl yn y chwarter awr olaf, ac Ashley Hemmings sgoriodd y gôl gyntaf o'r rheiny i'r ymwelwyr wrth iddo benio pasio Joe Day ar ôl 78 munud.

Ychwanegwyd ail gan Christian Doidge cyn i Alex Jakubiak ei gwneud hi'n dair i'r ymwelwyr ar ôl 88 munud.

Fe wnaeth David Tutonda ac Aaron O'Connor sgorio dwy gôl gysur i'r tîm cartref yn amser ychwanegol, ond roedd Dagenham wedi sicrhau'r fuddugoliaeth erbyn hynny.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn y nawfed safle, dri phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle gyda dwy gêm ar ôl nes diwedd y tymor.