Wrecsam 3-0 Braintree

Louis Moult Image copyright Lesopix

Ar ôl y siom o golli yng nghanol wythnos, fe wnaeth Wrecsam ennill yn gyfforddus o 3-0 yn erbyn Braintree ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Louis Moult sgoriodd gôl gyntaf y gêm i'r tîm cartref ar yr awr.

Yr ymosodwr ifanc oedd yn gyfrifol am ddyblu eu mantais rhyw 15 munud yn ddiweddarach wrth iddo gyfarfod croesiad Joe Clarke i benio i'r rhwyd.

Fe ychwanegodd Andy Bishop drydedd yn ystod amser ychwanegol wrth iddo benio croesiad Jay Harris pasio'r golwr Carl Pentney.

Golyga'r canlyniad bod Wrecsam yn aros yn yr 11eg safle yn y Gyngres gyda dwy gêm ar ôl nes diwedd y tymor.