Awyrennau newydd o Gymru i Norwich yn lansio

Maes Awyr Ynys Môn Image copyright Alann Fryer/Geograph
Image caption Fe fydd teithwyr yn gallu hedfan o Faes Awyr Ynys Môn i Norwich o ddydd Llun ymlaen

Mae gwasanaeth hedfan newydd sy'n galluogi i bobl hedfan o Ynys Môn a Chaerdydd i Norwich yn lansio ddydd Llun.

Mae cwmni LinksAir yn lansio'r gwasanaeth ar ôl cyhoeddi cynnydd o 30% mewn niferoedd teithwyr yn 2015 rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Mae'r maes awyr yn chwarae rôl bwysig mewn gwneud gogledd Cymru yn rhywle atyniadol i wneud busnes a denu ymwelwyr."

Fe fydd y gwasanaeth i Faes Awyr Rhyngwladol Norwich yn hedfan ar ddyddiau'r wythnos o ddydd Llun ymlaen.