Leanne Wood: 'Gallai Plaid wrthod cefnogi Llafur'

Leanne Wood
Image caption Dywedodd Leanne Wood na fyddai Plaid Cymru'n cynnig cefnogaeth ddiamod i'r blaid Lafur

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai'r blaid wrthod cefnogi Ed Miliband pe bai'n arwain llywodraeth Lafur lleiafrifol.

Dywedodd y blaid y bydden nhw yn gweithio gyda Llafur be bai'n methu cael mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol, ond fe wnaeth Ms Wood hi'n glir na fyddai hi'n cynnig cefnogaeth ddiamod.

Mae Llafur wedi dweud bod yr etholiad yn ddewis rhyngddyn nhw a'r Ceidwadwyr.

Rhybuddiodd y Torïaid am "glymblaid anhrefnus" rhwng Llafur a'r cenedlaetholwyr.

Mae Ms Wood wedi dweud na fyddai Plaid yn gweithio gyda'r Ceidwadwyr ac wedi cynnig helpu Llafur i gadw David Cameron o Downing Street.

'Anghyfrifol'

Ond pa ofynnwyd iddi ar raglen BBC Sunday Politics Wales os gallai Plaid bleidleisio yn erbyn cynllun o lywodraeth Lafur lleiafrifol mewn rhai amgylchiadau, dywedodd: "Mae'n bosib y byddwn ni'n gwneud hynny."

Ychwanegodd: "Nod Plaid Cymry yw ennill y cytundeb orau posib i Gymru ac rwy'n meddwl ei bod yn anghyfrifol o arweinydd yr wrthblaid i adael y drws yn agored i lywodraeth Geidwadol arall gan wrthod ystyried unrhyw fath o gytundeb gyda phleidiau eraill."

Mae Llafur a Plaid yn brwydro yn erbyn ei gilydd am lond llaw o seddi yng Nghymru, yn cynnwys Ynys Môn ac Arfon.

Dywedodd Ms Wood y byddai ei phlaid yn cyflwyno cynlluniau yn yr wythnos nesaf i droi gogledd Cymru yn "bwerdy" economaidd.

Dywedodd ymgeisydd Llafur Alun Pugh: "Mae'r etholiad yma yn ddewis syml rhwng llywodraeth Lafur fydd yn gweithio gyda llywodraeth Lafur Cymru i weithredu dros ein cymunedau a llywodraeth Dorïaidd sydd erioed wedi bod yn ffrind i Gymru.

"Rydyn ni nawr yn gwybod y bydd Plaid yn uno gyda'r Torïaid i bleidleisio yn erbyn llywodraeth Lafur pe bae nhw'n cael y cyfle."

Image caption Dywedodd Kirsty Williams ei bod wedi sefyll i fyny dros Gymru o fewn ei phlaid

'Mwy o wariant'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Fel gwelon ni nos Iau, beth bynnag mae Miliband yn ei ddweud, mae'r glymblaid anhrefnus yn cael ei ffurfio yn barod rhwng y cenedlaetholwyr sydd eisiau torri'r DU yn ddarnau, ac anrhefn economaidd Llafur o fwy o wariant, mwy o ddyled a threthi uwch."

Yn y cyfamser, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod wedi sefyll i fyny dros Gymru o fewn ei phlaid, gan ddadlau'n llwyddiannus yn erbyn cyflwyno cytundebau ariannol rhanbarthol yn y sector gyhoeddus - rhywbeth oedd gwrthwynebwyr yn ei ddweud fyddai'n lleihau cyflogau yng Nghymru.

Dywedodd wrth Sunday Politics: "Fe fyddwn ni wedi gweld gweithwyr y sector gyhoeddus yng Nghymru yn cael llai o dâl am wneud yr un gwaith a'u cyd-weithwyr yn Lloegr. Dywedon ni wrth Nick Clegg na ddylai alluogi i hynny ddigwydd ac fe wnaeth o stopio."