Digwyddiad McDonalds: Arestio bachgen 15 oed

Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol ar ferch ifanc mewn bwyty McDonalds yng Nghaerfyrddin.

Bu'r bwyty ar gau am dros bedair awr ddydd Sul wrth i brofion fforensig gael eu cynnal.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod heddweision arbenigol yn cefnogi'r ferch a'i mam.

Dywedwyd bod yr heddlu wedi cael eu galw ychydig cyn 10:00.