Pêl-droed Merched: Enwau o'r het

Tîm Merched Cymru Image copyright faw
Image caption Tîm Merched Cymru

Mae'r enwau wedi cael eu tynnu o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Pencampwriaeth Bêl-droed Merched Euro 2017 yn Yr Iseldiroedd.

Daeth enwau Merched Cymru allan fel trydydd detholion Grŵp 8.

Y timau eraill yn y grŵp fydd Norwy, Awstria, Israel a Kazakhstan.

Bydd yr wyth tîm sy'n ennill eu grŵp yn mynd ymlaen i'r rowndiau terfynol ynghyd â'r chwe thîm gorau i orffen yn ail yn eu grwpiau.

Fe fydd y ddau dîm arall sy'n gorffen yn ail yn mynd i gêm ail-gyfle am yr un lle sy'n weddill.

Bydd y 15 yna wedyn yn ymuno â'r Iseldiroedd - sy'n cymhwyso fel y wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth - yn y rowndiau terfynol.

Fe fydd y gemau rhagbrofol yn cael eu chwarae rhwng 14 Medi 2015 a 20 Medi 2016, gyda'r gemau ail-gyfle'n cael eu cynnal yn Hydref 2016.