Plasty gwag tref y Cofis

Plas Ty Coch Image copyright david roberts photography
Image caption "Mieri lle bu mawredd" ym Mhlas Brereton

Mae gobaith y bydd plasty llawn hanes sydd wedi bod yn mynd â'i ben iddo ar gyrion Caernarfon yn cael ei achub a'i droi'n westy moethus ar ôl i gwmni datblygu ei brynu. Ond beth yw hanes y lle?

Ar ôl i ymgais flaenorol i ddatblygu Plas Brereton fethu, mae'r adeilad, sydd mewn lle amlwg ar ochr y ffordd o Gaernarfon, wedi bod yn wag ac yn dadfeilio ers dros 10 mlynedd.

Os yw'r cais cynllunio'n llwyddo mae cwmni Cabot Park Ltd eisiau troi'r safle yn westy boutique a thŷ bwyta a chreu 20 o unedau gwyliau ar y tir. Maen nhw'n aros i ddatrys cwestiynau am addasu'r fynedfa o'r briffordd brysur ... a phroblem gydag ystlumod!

Ond pam fod 'na gartref mor grand wedi ei godi ar gyrion tref y Cofis? Beth yw stori'r plasty mawreddog â golygfeydd hyfryd dros Afon Menai? Emrys Llewelyn, arweinydd teithiau i ymwelwyr yng Nghaernarfon, sy'n dweud yr hanes:

'Plas Botwm' a chyfoeth y llechi

"Cafodd Plas Brereton - neu Plas Botwm fel roedd Cofis yn ei alw am ei fod yn haws i'w ddweud - ei godi yn yr 18fed ganrif ond mae'r adeilad welwn ni heddiw yn dyddio i 1820.

Image copyright David Roberts Photography
Image caption Mae'r plas, a'i ffenestri wedi'u bordio a'i erddi wedi gordyfu, yn olygfa drist ar ochr y brif ffordd i Gaernarfon

"Roedd y cyfoeth yng Nghaernarfon yn rhyfeddol yn ystod yr 19fed ganrif gyda theuluoedd oedd wedi gwneud eu ffortiwn yn y diwydiant llechi yn codi plastai enfawr fel Plas Glynllifon a'r Faenol. Ond dim i'w gymharu â Chastell Penrhyn ar gyrion Bangor.

"Plas Brereton oedd cartref teulu'r Turner a agorodd Chwarel Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle. Roedd William Turner o Swydd Gaerlŷr yn wreiddiol.

"Daeth ei fab, Llywelyn Turner, yn faer tref Caernarfon am 11 mlynedd ac yn Ddirprwy Gwnstabl Castell Caernarfon. Fo oedd yn gyfrifol am achub y castell a muriau'r hen dref gaerog drwy eu hailadeiladu ar ddiwedd y 1800au . Roedd y Normaniaid wedi cymryd cerrig o gaer Rufeinig Segontiwm i adeiladu rhan o'r castell a'r muriau a chymerodd Cofis Caernarfon yr union gerrig i adeiladu eu tai yn ddiweddarach.

"Roedd y mab arall Thomas Turner yn fanciwr blaengar a fo oedd yn berchen yr hen fanc yn ardal Pendist y dref gyda cherfluniau uwchben y drws, ddaeth yn fanc Lloyds yn ddiweddarach. Bwcis sydd yno bellach.

'Cyflwr truenus'

"Mae'n drist gweld yr hen dŷ wedi troi yn llanast ofnadwy ond gyda'r bwriad o'i adfer fel gwesty mae gobaith o weld y trysor yn ôl yn ei le.

Image copyright DAVID ROPBERTS PHOTOGRAPHY
Image caption Mae plasty arall, Plas Tŷ Coch, hefyd yn dirywio ar y safle, ond nid yw'n rhan o'r datblygiad newydd

"Ar lan y Fenai mae bwthyn ceidwad y doc ac mae hwn, fel gweddill yr eiddo wedi mynd i gyflwr truenus. Llwyddodd y cyn berchennog i chwalu ffiniau Plas Brereton a Phlas Tŷ Coch, dymchwel y wal a chodi ffens yn ei le.

"Mae 'na sôn bod y brodyr Williams yn rhedeg fferi anghyfreithlon o'r llecyn yma draw i Borras ar Ynys Môn cyn iddyn nhw gael eu dal a'u cosbi.

Stori ysbryd

"Mae sawl stori ysbryd yn gysylltiedig â Chaernarfon ond un sydd ddim mor gyfarwydd yw hanes yr ysbryd ym Mhlas Brereton.

"Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y fyddin yn cadw arfau a deunydd rhyfela mewn cytiau ar y tir a byddai dau filwr yn cadw golwg dydd a nos yno.

"Roedd Twm Parry a Now Coes Glec yn hen fêts ac wedi bod yn cwffio yn y Rhyfel Mawr a nawr yn yr Home Guard ar ddyletswydd. Roedd yn noson oer a gwyntog a'r ddau wedi swatio yn un o stafelloedd mawr y plasty.

"Roeddent wedi cael gorchymyn i gadw golwg am y Luftwaffe wrth iddynt groesi o'r môr tuag at Lerpwl. Nid oeddant wedi gweld na chlywed dim ond roedd rhyw sŵn rhyfedd a dychrynllyd yn dod o'r gerddi. Agorwyd y llenni yn ofalus a chlywed sŵn dychrynllyd yn agosáu at y tŷ! Roedd un o'r hogia yn Nhŷ Potas Ty'n Cei wedi sôn am fwgan yn y tŷ ond wfftio wnaeth y ddau hen filwr.

"Penderfynwyd mynd allan gyda'u gynau i chwilio am yr anghenfil. Wrth iddynt glywed y crochlefain eto aethant ar ras i dalcen y tŷ a stopio'n stond a dechrau chwerthin nerth eu pennau. Beth oedd yn sefyll yno yn clochdar ond clagwydd enfawr!

"'Be ddiawl ydi'r sŵn 'ma, byddwch ar charge am hyn dalltwch' me' llais Sarjant Tommy Hughes. 'Dewch i'r tŷ am banad a fe ddywedwn y stori me' Now.

"Aethant i'r 'stafell a thywallt panad boeth i'r Sarjant ac wedi iddo glywed am y clagwydd roedd o'n chwerthin hefyd ac ni chafodd y ddau eu cosbi wedi'r cyfan.

"O'r dydd hwnnw Twm a Now Clagwydd oedd enw'r ddau gyfaill a chawsant sawl peint am ddim am adrodd y stori ysbryd a rhoi ychydig o gig ar yr asgwrn wrth gwrs."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.