Damwain: Cyhoeddi enw dyn fu farw

Stephen Richard Jessett

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ger cylchfan brynhawn Gwener.

Y dyn oedd Stephen Jessett, 29 oed o'r Pant ym Merthyr Tudful.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha a char VW Polo du ar yr A4059 yn Aberdâr a dywedodd parafeddygon fod y beiciwr modur yn farw yn y fan a'r lle.

Cafodd dyn ei arestio.

Dywedodd y teulu: "Mae Stephen yn gadael dwy chwaer, un brawd a llawer o ffrindiau a bydd colled fawr ar ei ôl.

"Roedd wastad wedi byw yn yr ardal a phawb yn ei nabod.

"Roedd yn hoff o gymdeithasu ac yn gwenu a chwerthin drwy'r amser."

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.