Diwrnod Cymru Fyw yn y Fro

Stryd Fawr y Barri
Image caption Stryd Fawr y Barri

Disgleirio oedd yr haul wrth i fi gyrraedd y Barri yn gynnar bore yma. Ond doedd yna ddim teimlad gwresog tuag at wleidyddion ar strydoedd y dref gyda sawl un yn dweud bod nhw wedi eu dadrithio.

"Peidiwch â siarad gyda fi am yr etholiad! Yn fy marn i ma' nhw i gyd yr un peth," meddai un gŵr wrtha i.

"Ma nhw yn tueddu i ddweud yr hyn chi ishe clywed," oedd sylw dyn arall.

"Sdim ots pwy fydd yn rheoli. Allan nhw ddim rhedeg ffair sborion! Allen i wneud yn well na nhw," meddai menyw arall.

Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd mai'r genhedlaeth hŷn wnes i holi ar y cyfan oedd yn dweud hyn. Ac er y sylwadau negyddol mi oedd y rhan fwyaf yn dal yn bwriadu pleidleisio a hynny dros yr un blaid roedden nhw wastad wedi gwneud.

Munud olaf

Ond doedd Andrew Green ddim wedi penderfynu eto. Llafur oedd ei blaid o, yna'r Ceidwadwyr a'r tro yma mi fydd yn penderfynu ar y funud olaf. Er ei fod o'n dweud fod perthynas iddo yn Aelod Seneddol Ceidwadol (Damien Green) mi oedd o'n teimlo fod y toriadau yn "brifo pobl".

Image caption Nid yw Andrew Green wedi dewis pwy fydd yn pleidleisio iddynt eto

Ymgynghorydd iechyd a diogelwch ydy o ond mae'n dweud nad ydy o byth yn cael gwaith yng Nghymru. 'Does 'na ddim talent cynhenid cartre' erbyn hyn. Ma' pobl sydd yn gweithio ar brosiectau adeiladu mawr i gyd yn dramorwyr.'

Mae Marian Donovan wedi byw yn y dref ers 1958. Ac mae'n dweud bod nifer yn credu bod y Bari yn ffynnu o achos ei bod hi'n agos i Gaerdydd. "Ond 'dyn ni ddim," meddai.

Mae'n dweud bod y gwasanaethau bysys wedi dirywio. Tydi hi methu mynd a dod ar y bws i'r dociau fel roedd hi yn medru gwneud.

Sôn am y traffic trwm wna Heulwen Cooper oedd yn arfer bod yn athrawes cyn iddi ymddeol. 'Ma nhw'n codi rhagor o dai yn y Bari sy'n ychwanegu at y traffic. Ma ishe gwella'r hewl.'

Diweithdra

Taclo diweithdra yw'r hyn fyddai Helen Richards yn hoffi gweld y Prif Weinidog nesaf yn gwneud yn yr ardal. "Ma 'na gymaint o bobl ar fudd-daliadau yn y Barri,' meddai. 'Ni angen gwaith ond sut chi yn gwneud hynny dw i ddim yn gwybod."

Mae'r fam ifanc wedi colli ffydd yn y pleidiau sydd wedi llywodraethu yn y gorffennol ac yn ystyried rhoi pleidlais i Blaid Cymru y tro yma. Ond dyw hi ddim yn siŵr os oes 'na bwynt am mai plaid fach yw hi.

"Dw i'n poeni bod 'na lot o bobl yn mynd i bleidleisio dros UKIP a hynny fydda'r camgymeriad mwyaf. Dw i ddim yn meddwl bod gyda nhw unrhyw glem. Ma nhw yn eithafol iawn ond ma' nhw yn apelio at bobl."

Y Gwyrddion fydd yn cael pleidlais Richard Thomas sy'n 23 oed ac yn gweithio mewn canolfan alwadau. "Dyw eu cynrychiolwyr ddim fel gwleidyddion arferol sydd yn wahanol."

Image caption Dywed Richard Thomas bod dim rhyfedd bod yna ddifaterwch ymysg pobl ifanc

"Llymder"

Mae'n dweud bod yna ddim rhyfedd bod yna ddifaterwch ymhlith pobl ifanc am fod gwleidyddion yn defnyddio geiriau mawr.

"Llymder - oedd rhaid i fi edrych yn y geiriadur i ddeall beth mae e yn feddwl. Ma nhw yn defnyddio gymaint o eiria, yn baldorddi, fel dyw pobl ddim yn deall beth ma'n nhw yn dweud."

Dim ond crwydro strydoedd y Barri am ryw awr neu ddwy wnes i'r bore 'ma. A ni wnes i holi cannoedd o bobl gan mai digon llwm oedd y niferoedd ar y stryd.

Dydw i felly ddim yn gwybod pa mor gynrychioladol oedd y farn glywes i - yn sicr nid cynnal pôl piniwn gwyddonol oeddwn i. Ond un peth wnaeth fy nharo - gyda'r papurau, y newyddion, y trydar yn llawn o straeon a sylwadau am yr etholiad hawdd ydy credu bod gan y cyhoedd ddiddordeb ysol yn yr etholiad cyffredinol eleni ac y bydd llawer mwy yn pleidleisio. Ond efallai nad yw hynny yn hollol gywir.