Beth am y Democratiaid Rhyddfrydol?

elliw gwawr

Ym mis Mai 2010 fe gamodd Nick Clegg i mewn i Downing Street fel Dirprwy Brif Weinidog wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf ers 1918, ar ôl ennill 57 o seddi a 24% o'r bleidlais.

Roedd yn sicr yn foment hanesyddol i'r blaid wrth iddyn nhw symud o fod yn blaid brotest i bartner mewn clymblaid yn San Steffan, ond dyw hi ddim yn un mae'r etholwyr wedi'i werthfawrogi.

Yn y bum mlynedd ddiwethaf mae'r blaid wedi gweld eu cefnogaeth yn gostwng yn sylweddol.

Ar draws Prydain mae'r arolygon barn ddiweddaraf yn eu rhoi nhw ar 8-9%, ond yng Nghymru mae pethau yn waeth fyth - 5-6% - tua chwarter y gefnogaeth y cafon nhw yma yn 2010 ac yn debyg iawn i gefnogaeth y blaid Werdd.

Niwed sylweddol

Fel partner llai mewn clymblaid roedden nhw wastad yn mynd i ddioddef, ond mae'r ffaith mai clymblaid gyda'r Ceidwadwyr oedd hon wedi eu niweidio yn sylweddol, yn enwedig yng Nghymru. Er mae'n siŵr o frifo nad yw'r Ceidwadwyr wedi gweld yr un cwymp yn eu cefnogaeth nhw.

A does dim dwywaith eu bod nhw wedi talu'r pris am dorri'r addewid i beidio â chynyddu ffioedd dysgu.

Felly mae eu neges ar gyfer yr etholiad hwn yn gorfod taro nodyn digon anodd rhwng brolio am eu llwyddiannau mewn llywodraeth ar yr un llaw, ond ar y llaw arall yn pwysleisio eu hunaniaeth eu hunain gan ladd ar bolisïau'r Ceidwadwyr.

Mae'n amlwg yn mynd i fod yn frwydr a hanner iddyn nhw, ac mae eu harweinydd yng Nghymru, Kirsty Williams yn cydnabod na fydd hi'n hawdd.

"Da ni ddim yn twyllo ein hunain, mae'n mynd i fod yn ymgyrch etholiadol anodd.

"Ond da ni'n hollol glir ein bod ni wedi gallu dangos i bobl bod gennym ni record o weithredu ar lefel San Steffan."

Image copyright PA
Image caption Mae'r arweinydd yng Nghymru, Kirsty Williams wedi cydnabod fod her o'u blaen

Goroesi

Felly goroesi yw'r nod nawr, ac yng Nghymru'r gorau y gallent obeithio amdano yw dal eu gafael ar y tair sedd sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, Canol Caerdydd, Brycheiniog a Sir Faesyfed a Cheredigion; ac o bosib herio'r Ceidwadwyr ym Maldwyn.

Ond mae hyd yn oed hynny yn swnio'n obeithiol, mae bron a bod yn anochel y bydda nhw'n colli seddi, y cwestiwn mawr yw faint? Pe byddech chi'n trosglwyddo eu cefnogaeth yn yr arolygon barn yn deg ar draws Cymru, fe fyddai hynny yn eu gadael gyda dim ond un sedd - Ceredigion.

Byddai hynny yn sicr yn drychinebus i'r blaid, ond eto does yna ddim panig mawr ymysg yr aelodau dw i wedi siarad â nhw; a'r rheswm am hynny yw'r gred eu bod nhw'n llawer cryfach nag y mae'r arolygon barn yn eu hawgrymu yn y seddi hynny ble mae ganddyn nhw eisoes aelodau seneddol.

Cystadleuaeth agos

Dwi'n amau y bydd hynny yn wir yn sedd Jenny Willot, yng Nghanol Caerdydd - mae'n sedd sy'n edrych yn sicr o gael ei chipio gan Lafur.

Mae arolwg yr Arglwydd Ashcroft yn Aberhonddu a Sir Faesyfed yn awgrymu y gall poblogrwydd Roger Williams fel aelod lleol wneud gwahaniaeth. Ond fe fydd hi'n gystadleuaeth agos rhyngddo fo a'r ymgeisydd Ceidwadol, ac yn sedd i'w gwylio yn agos.

Eto, er gwaethaf y dirywiad yn eu cefnogaeth a'r her enfawr o'u blaenau, dyw Nick Clegg na Kirsty Williams yn difaru ffurfio clymblaid dros y bum mlynedd ddiwethaf.

"Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu treulio pum mlynedd yn cyflwyno polisïau'r Democratiaid Rhyddfrydol", meddai Kirsty Williams.

"Da ni wedi gallu defnyddio ein dylanwad i weithredu polisïau Democratiaid Rhyddfrydol na fyddai wedi gallu digwydd fel arall."

Cyfle arall

A'r nod, ymysg yr arweinyddiaeth o leiaf, yw sicrhau digon o seddi er mwyn cael cyfle arall i lywodraethu ar y cyd, boed hynny gyda'r Ceidwadwyr neu'r blaid Lafur.

Ond o siarad gyda rhai o hoelion wyth y blaid dros y misoedd diwethaf, mae yna deimlad na ddylid rhuthro fewn i unrhyw gytundeb, ac mae yna nifer o aelodau fyddai'n fwy na hapus i dreulio rhywfaint o amser fel gwrthblaid eto a chanolbwyntio ar adeiladu ar eu cefnogaeth.

Mae'n ddigon posib y daw eu dymuniad yn wir y tro hwn, gan nad y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yr unig blaid lai yn brwydro am ddylanwad os oes yna senedd grog arall.