Cwestiynau am daith Cerddwn Ymlaen

Cerddwn Ymlaen Patagonia Image copyright Cerddwn Ymlaen

Mae BBC Cymru yn deall nad oedd trefnwyr taith Cerddwn Ymlaen i Batagonia wedi codi pryderon sylweddol am drefniadau iechyd a diogelwch cyn iddyn nhw ohirio'r daith fis diwethaf.

Roedd y daith i fod yn rhan o ddathliadau 150 mlynedd y Wladfa, ac roedd disgwyl i 150 o bobl gerdded 80 o filltiroedd ym Mhatagonia ym mis Tachwedd eleni.

Roedd y daith elusennol er mwyn codi arian at Gronfa Elen, sef cronfa sydd yn hybu rhoi organau, ac ar gyfer ysgol Gymraeg ym Mhatagonia.

Fel rhan o'r daith roedd disgwyl i'r cerddwyr godi £4,000 eu hunain.

Mae'r trefnwyr wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn "fodlon eu bod wedi gweithredu yn gywir ac yn gyfreithiol" mewn cysylltiad â'r daith.

Codi arian

Mae Cerddwn Ymlaen wedi bod yn trefnu teithiau cerdded ers 2012, a hynny dan arweinyddiaeth y canwr clasurol Rhys Meirion.

Roedd y teithiau hyn er budd Ambiwlans Awyr Cymru, ac fe gafodd £370,000 ei godi i'r elusen dros gyfnod o dair blynedd.

Fis diwethaf, fe wnaeth Eryl Vaughan, trefnydd taith Cerddwn Ymlaen Patagonia, ryddhau datganiad yn dweud eu bod wedi ymweld â Phatagonia ym mis Tachwedd y llynedd, ac ar y pryd roeddynt wedi "darganfod nifer o broblemau, yn bennaf ynglyn â threfniadau iechyd a diogelwch".

Dywedodd y datganiad: "Er i ni fod mewn trafodaethau manwl yn y cyfamser, nid ydym wedi derbyn y sicrwydd yr oeddem ei angen ynglŷn â'r materion yma ac ni allwn felly barhau gyda'r cynlluniau yn ddiogel o'r herwydd".

Image caption Eryl Vaughan, trefnydd Cerddwn Ymlaen Patagonia

Mae BBC Cymru wedi gweld dogfennau swyddogol sydd yn tanlinellu ffiniau'r daith ac e-byst rhwng y trefnwyr yng Nghymru a Phatagonia.

Roedd un o'r dogfennau hynny wedi eu hanfon gan y trefnwyr yng Nghymru i'r trefnwyr ym Mhatagonia.

Roedd y ddogfen yn disgrifio Cerddwn Ymlaen fel Cerddwn Ymlaen CIO. Mae "CIO" yn awgrymu fod y sefydliad yn elusen gofrestredig, ond fe wnaeth Cerddwn Ymlaen nodi fod y statws elusennol yn y broses o gael ei gadarnhau.

Mae'r Comisiwn Elusennol wedi cadarnhau nad yw Cerddwn Ymlaen yn elusen gofrestredig ac nid ydynt wedi derbyn cais erioed i'w gofrestru fel elusen.

Mae Mr Vaughan wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai Cerddwn Ymlaen CIO yn cael ei sefydlu gyda'r Comisiwn Elusennol er mwyn bod yn gorff cyfreithiol pwrpasol ar gyfer gweinyddu arian y daith ym Mhatagonia.

Dywedodd: "Pan wnaeth y cytundeb ddisgyn drwodd, doedd hi ddim yn eglur os oedd angen i Cerddwn Ymlaen fod yn gorff elusennol, ac fe enciliodd y broses hyd nes yr oedd y sefyllfa yn dod yn eglur."

Arian

Pryder arall gan y trefnwyr ym Mhatagonia oedd nad oedd hi'n eglur faint o arian y daith fyddai'n mynd i'r ysgol Gymraeg yn y Wladfa, Ysgol y Cwm.

Ar y pryd dywedodd Eryl Vaughan nad oedd "Cerddwn Ymlaen CIO yn gyfreithiol yn cael rhoi arian elusennol tu allan i Gymru".

Yn ôl Martin Price, sydd yn arbenigwr ar elusennau: "Does dim cyfraith sydd yn nodi nad yw elusennau Prydeinig yn cael codi arian ar gyfer achosion da tramor.

"Yr eithriad i hyn fyddai petai eu hamcanion elusennol yn nodi nad oeddent yn cael gwneud hyn. Ond, os nad yw sefydliad wedi ei gofrestru fel elusen, mae'n anodd gweld sut y gall hyn fod," meddai.

Dywedodd Mr Vaughan wrth BBC Cymru fod Memorandwm o Ddealltwriaeth ar ffurf drafft wedi ei gymeradwyo gan bwyllgor Ysgol y Cwm, oedd yn cynnwys cynnig i gyflogi dau athro fyddai wedi cael eu dewis a'u talu yng Nghymru, a hynny er mwyn osgoi'r trafferthion o anfon arian i'r Ariannin.

Mi gafodd y memorandwm ei daflu i un ochr pan fethodd y trefnydd ym Mhatagonia ag arwyddo'r cytundeb, meddai.

'Digalon iawn'

Mewn datganiad fore Mawrth, dywedodd Rhys Meirion:

"Dwi'n ddigalon iawn fod y stori yma yn hawlio'r penawdau heddiw.

"Dw i isio pwysleisio nad oes unrhyw ffrae wedi bod rhwng trefnwyr Cerddwn Ymlaen yma yng Nghymru a threfnwyr y daith ym Mhatagonia.

"Er hynny mae yna anghytuno wedi bod rhyngom ni ac un o'r trefnwyr yn Y Wladfa. Fo oedd yn gyfrifol am bethau ymarferol y daith fel trefnu meddygon, lluniaeth i'r cerddwyr, a phebyll i bobl aros ynddyn nhw.

"Mi allai gadarnhau ein bod wedi cael sawl galwad ffôn a sgyrsiau Skype oedd yn trafod materion yn ymwneud â iechyd a diogelwch ond efallai nad oedden ni wedi nodi hynny yn ysgrifenedig.

"Mae iechyd a diogelwch yn nhu hwnt o bwysig i ni fel trefnwyr, does dim byd pwysicach. Yn y pen draw, oherwydd nad oedd y person oedd fod i drefnu pethau ymarferol y daith yn gallu gwarantu na dangos i ni fod popeth yn ei le o ran trefniadau cysgu ac ati doedd gennym ni ddim dewis yn y diwedd ond canslo."

Ychwanegodd Rhys Meirion fod y criw yn parhau i fod mewn cysylltiad â phwyllgor yr ysgol a phwyllgor yr Andes, ac yn gobeithio gallu trefnu taith debyg gyda'u cydweithrediad yn y dyfodol.

Image copyright Ambiwlans Awyr Cymru
Image caption Mae Rhys Meirion wedi arwain teithiau Cerddwn Ymlaen yng Nghymru ers 2012