Datrys dirgelwch corff ym Mhatagonia

Catherine Roberts Image copyright Ricardo Preve Film LLC

Dros 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia, mae dynes o Gerrigydrudion wedi helpu i ddatrys dirgelwch un o'r bobl gyntaf i wneud y daith i'r Ariannin.

Yn 1995 fe ddaeth adeiladwyr o hyd i weddillion dynol ym Mhorth Madryn.

Roedd tystiolaeth fiolegol ynghyd ag arteffactau cafodd eu darganfod gerllaw, yn awgrymu mai gweddillion Catherine Roberts oedden nhw. Roedd Catherine Roberts wedi cyrraedd Yr Ariannin ar y Mimosa ar 28 Gorffennaf 1865, gyda 152 o bobl eraill o Gymru oedd yn chwilio am fywyd gwell.

Ond nid oedd hi'n bosib cynnal profion DNA i gadarnhau hyn tan eleni, pan wnaeth ymchwilwyr lwyddo i ddarganfod ei disgynydd, Nia Olwen Ritchie o Gerrigydrudion.

Catherine Roberts

Roedd Catherine Roberts yn 36 oed yn 1865 pan dalodd £12 am ei thaith o Lerpwl i Batagonia.

Nid oedd y Mimosa, llong arferai gario te oedd wedi gweld dyddiau gwell, wedi'i chynllunio i gludo teithwyr ac mi gymrodd ddau fis iddi gyrraedd Yr Ariannin.

Mae cofnodion y Cymry ym Mhatagonia yn nodi mai Catherine oedd y cyntaf i farw yn y Wladfa, er nad oes unrhyw fanylion am ble'n union y cafodd ei chladdu.

Dechreuodd rai amau mai corff Catherine Roberts oedd hwnnw gafodd ei ddarganfod yn 1995 pan ddaeth i'r amlwg bod modrwy a botwm oedd hefyd yn y bedd yn dod o Gymru.

Mae'r cofnodion hefyd yn disgrifio sut roedd y Cymry cynnar yn adeiladu eu heirch o goed pîn wedi'i achub o long wedi'i dryllio, a chafodd darnau o'r un coedyn o Binwydden Yr Alban ei ddarganfod ym medd Catherine.

Mi wnaeth archwiliad o'r esgyrn ddod i'r casgliad eu bod nhw o'r oed, a'r maint, cywir ynghyd â dangos bod nam anghyffredin ar asgwrn wi gên, nam mae modd ei weld yn yr unig lun o Catherine, gafodd ei dynnu cyn iddi adael am Batagonia.

Image copyright Ricardo Preve Film LLC
Image caption Fe aeth Nia Olwen Ritchie i'r Ariannin er mwyn gallu profi DNA Catherine Roberts

'Wrth fy modd'

Er gwaethaf gwaith gan yr anthropolegydd fforensig, Dr Carlos Vullo, i dynnu sampl DNA o'r sgerbwd, nid oedd modd dysgu mwy am ei hanes oherwydd nad oedd modd darganfod disgynyddion benywaidd Catherine Roberts.

Wedi deg mlynedd o chwilio am ddisgynydd benywaidd, mi ddarganfyddodd yr ymchwilwyr, Nia Olwen Ritchie o Gerrigydrudion.

Aeth Nia i'r Ariannin er mwyn gallu profi ei DNA, a darganfod os oedd yn cyd-fynd â DNA Catherine Roberts.

Dywedodd Nia: "Roedd hi'n dipyn o syndod pan wnaethon nhw gysylltu â mi, ond roedd gen i ddiddordeb yn hanes fy nghyn-deidiau ac roeddwn i eisiau helpu ble y gallwn i.

"Pan wnaethon nhw gadarnhau fy mod i'n ddisgynydd i Catherine Roberts - roeddwn i wrth fy modd.

"Mae'n ddiweddglo teilwng i'w stori ac rydw i'n falch y bydd hi'n gallu cael ei chladdu'n barchus, yn hytrach na threulio diwedd ei dyddiau mewn labordy ymchwil."

Bydd taith Nia i ddarganfod ei hanes teuluol, yn cael ei ddangos ar raglen ddogfen yn Yr Ariannin.

Mae cynhyrchydd y rhaglen, Ricardo Preve, yn gobeithio dod i gytundeb gyda darlledwyr o'r DU er mwyn i fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r rhaglen ddogfen gael eu darlledu ym mis Gorffennaf, i gyd-fynd â dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa.

Straeon perthnasol