Pen-blwydd Hapus Tŷ Newydd

Tŷ Newydd

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn dathlu carreg fillir bwysig yr wythnos hon. Mae' yna 25 mlynedd ers i'r adeilad yn Llanymstumdwy gael ei sefydlu yn ganolfan i lenorion dyheig gael cyfle i geisio feistroli eu crefft.

Roedd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru yn un o sylfaenwyr y ganolfan. Mae hi'n trafod gyda Cymru Fyw sut y daeth y freuddwyd yn fyw...

"Breuddwyd"

Yn yr 80au hwyr fe ddechreuais freuddwydio am dŷ i ysgrifenwyr yng Nghymru. Roeddwn i wedi bod yn diwtor ar hanner cant o gyrsiau sgwennu barddoniaeth yn Lloegr ar gyfer Sefydliad Arvon, i oedolion ac ysgolion - cafodd yr enw Arvon, wedi ei sillafu felly, ei ddewis gan Ted Hughes ar ôl Tywysogaeth Gymreig Arfon - felly pam nad oedd gan ysgrifenwyr Cymru ein tŷ ein hunain?

Mi roddodd Ted Hughes ei gefnogaeth i mi a'm gweledigaeth, a fformat 'Arvon' yw'r un rydym ni yn dal i'w ddefnyddio: bydd hyd at 15 o fyfyrwyr yn treulio pum noson a phedwar diwrnod yn gweithio gyda dau ysgrifennwr cyhoeddedig - beirdd, nofelwyr, a dramodwyr proffesiynol. Mae'r myfyrwyr yn rhannu adnoddau hunan-arlwyo dan oruchwyliaeth dau reolwr tŷ medrus.

Image copyright Keith Morris
Image caption Y llenorion yn cael lluniaeth

Mae rhai o aelodau'r grwpiau cynnar erbyn hyn yn enwau cyfarwydd ac mae nifer wedi gweld eu gwaith mewn print. Mae nifer o fyfyrwyr eraill wedi dysgu i garu darllen, i fynegi eu hunain, ymuno gyda grwpiau sgrifennu a gwneud ffrindiau hir oes gyda phobl â'r un diddordebau.

Chwilio am dŷ

Mae yna wyrthiau. Bachgen o gefndir difreintiedig yn anwesu'r bwrdd derw, gan ddweud nad oedd e erioed wedi teimlo pren; un arall, llanc gyda phroblemau, yn mynd adref yn ddyn ifanc tawel.

Yn 1988-89, gydag anogaeth Meic Stephens, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, fe aeth fy ngŵr, David Thomas, a minnau ati i chwilio am dŷ.

Fe ddaethon ni o hyd i Tŷ Newydd, cartref olaf David Lloyd George, adeilad rhestredig gyda golygfeydd o'r môr, Eryri ar draws dyfroedd Bae Aberteifi.

Y teulu Baker oedd y perchnogion erbyn hynny ond roedd y tŷ wedi ei rannu yn amryw o letyau gwyliau gan berchennog blaenorol.

Roedden ni angen arian. Fe sgwennais i lythyrau at bob awdur Prydeinig y llwyddais i ddod o hyd i'w cyfeiriadau yn erfyn am gymorth ac fe wnaethon ni godi £15,000. Cawsom arian cyfatebol gan Gyngor y Celfyddydau ac roedden ni felly ar ein ffordd.

Image caption Llwyddodd Gillian Clarke i godi £15000 tuag at Tŷ Newydd trwy sgwennu at nifer o awduron Prydeinig

Aeth Sally Baker, ei gŵr, Elis, David a finnau ati i sgrwbio, paentio ac adfer y tŷ mor agos i'w hen ogoniant ag roedd arian ac amser yn ei ganiatáu. Fe gawson ni ddodrefn am ddim gan Laura Ashley a Maskreys yng Nghaerdydd.

Roedd Sally Baker, Cyfarwyddwr cynta'r ganolfan, yn gydweithwraig ardderchog o fewn ein tîm bychan, gan wneud gwaith gwych dros gyfnod o ugain mlynedd, yn datblygu dealltwriaeth agos o sut a pham roedd y ganolfan yn gweithio. Hi wnaeth sicrhau grant y Loteri i'w gwneud hi'n bosib i adfer a thrawsnewid Tŷ Newydd i'r hyn ydi e heddiw.

Fe agorodd y cwrs cyntaf - Barddoniaeth - yn y Pasg 1990 gyda Robert Minhinnick a minnau yn diwtoriaid. Mae o leiaf un o'r myfyrwyr, Adam Horowitz, bellach yn fardd cydnabyddedig a'i waith wedi ei gyhoeddi.

Mae Tŷ Newydd yn fwy nag adeilad. Mae e'n weledigaeth, yn ffordd o wneud pethau, yn gartref dros-dro i ysgrifenwyr dyheig.

Rydw i wedi bod yn diwtor ar o leiaf un cwrs bob blwyddyn ers y dechrau, ac rydw i'n dysgu'r dosbarth meistr blynyddol ar farddoniaeth gyda'r Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy.

Mae gan Gymru ddwy lenyddiaeth, ac mae ysgrifenwyr Cymru yn unfryd yn eu cefnogaeth i'n dwy iaith, a'r tŷ ble maen nhw'n ffynnu.

Image copyright Keith Morris