Aldershot 1-1 Wrecsam

Louis Moult Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Wrecsam wedi sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Aldershot yn y Gyngres nos Fawrth.

23ain gol Louis Moult i'r Dreigiau roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 10 munud o chwarae.

Ond manteisiodd Andre McCollin ar gamgymeriad amddiffynnol i unioni'r sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Aldershot gafodd y cyfloed gorau wedi'r egwyl ond doedden nhw methu sicrhau buddugoliaeth.

Mae Wrecsam nawr yn yr 11eg safle.