Dau yn cael eu cyhuddo o lofruddiaeth Wayne Letherby

Wayne Letherby Image copyright South Wales Police
Image caption Bu farw Wayne Letherby yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn ar ôl ymosodiad difrifol yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Wayne Letherby, 42, ar 17 Ebrill yn dilyn yr ymosodiad yn Nhonypandy.

Bydd y ddau ddyn, y ddau yn 26 oed, yn ymddangos gerbron Ynadon Pontypridd ddydd Mercher.

Mae dyn a dynes gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.