Pwysigrwydd Cymru i'r Blaid Lafur

Elliw Gwawr

Os yw'r blaid Lafur yn mynd i ennill yr etholiad hwn, yna mae llwyddiant yng Nghymru yn hanfodol, yn enwedig o ystyried problemau'r blaid yn yr Alban.

Mae Cymru wastad wedi bod yn gadarnle a byddai Ed Miliband wedi gobeithio y gallai ddarparu mwy na'i siâr o seddi newydd i'w helpu i gyrraedd Downing Street.

Yn ddelfrydol byddai'r blaid yn cipio nifer o'r seddi y collwyd i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn 2010, seddi fel Aberconwy, Arfon, Y Fro a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Ond ar hyn o bryd mae'r arolygon barn yn awgrymu mai dim ond dwy sedd ychwanegol y bydden nhw'n ei hennill - Canol Caerdydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Gogledd Caerdydd gan y Ceidwadwyr.

'Rosette coch ar asyn'

Dyw Llafur yng Nghymru ymhell o fod yn wynebu'r math o broblemau sydd gan y blaid yn yr Alban, ble mae pob un o'u seddi dan fygythiad gan yr SNP.

Ond dydyn nhw chwaith ddim yn gweld yr ymchwydd mewn cefnogaeth y byddai Mr Miliband wedi gobeithio amdano os oedd o'n mynd i sicrhau mwyafrif.

Pan ddechreuodd toriadau'r glymblaid daro, fe chwyddodd eu cefnogaeth yng Nghymru i dros 50%, ond mae wedi bod yn disgyn fyth ers hynny.

Ar un pwynt roedd cefnogaeth y blaid ar 36% - hyd yn oed yn is na'r canlyniad yn etholiad 2010, ac er ei fod nawr wedi sefydlogi o gwmpas 40%, maen nhw dal mewn sefyllfa ble maen nhw'n fregus mewn seddi fyddai yn hanesyddol yn cael eu cyfri fel seddi saff iawn.

Mae yna hen jôc yn y cymoedd y gallech chi roi rosette coch ar asyn ac fe fyddai dal yn cael ei ethol, ond efallai nad yw hynny cweit mor wir y dyddiau hyn, mae'r mwyafrifoedd enfawr bellach wedi mynd.

Colli pleidleisiau i UKIP

Ym Merthyr er enghraifft, mae gan y Blaid Lafur fwyafrif o ychydig dros 4,000, yn 1997 roedd o'n 27,000; ac fel nifer o ardaloedd eraill yng Nghymru mae'r blaid yn bennaf yn colli pleidleisiau i UKIP.

Yn Ynys Môn, fe allai pleidlais gref i UKIP ar draul y blaid Lafur roi'r fantais, a'r sedd, i Blaid Cymru.

Ond mae ymgeisydd y blaid yn Ynys Môn, Albert Owen, yn gwadu y dylen nhw fod yn gwneud yn well, er gwaethaf llymder y glymblaid.

"Mae pleidlais y Ceidwadwyr yn gryf", meddai.

"Ond da ni ar 40% o'r bleidlais yng Nghymru ac mae hwnna yn blatfform da i fynd i mewn i'r etholiad.

"Ar ddiwedd y dydd dwi'n dweud wrth bobl bod yna ddewis rhwng y Ceidwadwyr a Llafur i ffurfio llywodraeth ac mae hwnna yn rhywbeth cryf na all UKIP na'r un o'r pleidiau eraill ei ddweud".

Image copyright PA

'Stoc Ed Miliband wedi codi'

Ond mae'n cyfaddef bod amhoblogrwydd personol Ed Miliband yn sicr wedi bod yn broblem i'r blaid. Mae pobl wedi'i chael hi'n anodd ei weld o fel prif weinidog. A hyd yn oed ymysg rhai o gefnogwyr selog y blaid mae yna bryder am ei allu i arwain y wlad.

"Oedd o'n negyddol cyn yr etholiad mae'n rhaid i fi fod yn onest.

Er mae Albert Owen yn credu bod y dadleuon teledu wedi ei helpu nhw'n fawr.

"Rwan mae o'n llai negyddol ac yn ein helpu ni.

"Mae pobl yn dweud bod stoc Ed Miliband wedi codi a dwi'n meddwl bod hwnna wedi helpu Llafur dros Gymru gyfan."

Ond mae ganddyn nhw wendidau delwedd ehangach hefyd, yn benodol eu hygrededd ar yr economi. Tydyn nhw ddim wedi llwyddo i herio'r canfyddiad, sy'n cael ei ail adrodd yn rheolaidd gan y Ceidwadwyr, mai nhw oedd ar fai am broblemau economaidd y wlad.

A gyda'r economi yn un o brif bynciau'r etholiad hwn mae hynny yn sicr yn broblem iddyn nhw.

Disgwyl gormod?

Efallai nad yw pobl yn licio'r cyfnod yma o lymder, ond mae llawer yn parchu'r Ceidwadwyr am fod yn ddigon dewr i gymryd penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd er budd yr economi.

Maen nhw wedi ceisio gwyrdroi'r ddelwedd yna yn eu maniffesto drwy addo i dorri ar y diffyg bob blwyddyn yn y senedd nesaf.

Er gyda chyn lleied o amser i fynd cyn y bydd pobl yn taro eu pleidlais, mae'n bur debyg ei bod hi'n rhyw hwyr i berswadio pleidleiswyr y gellir ymddiried ynddyn nhw i edrych ar ôl yr economi.

Ond ydyn ni'n disgwyl gormod?

Dim ond pum mlynedd maen nhw wedi'i dreulio fel gwrthblaid wedi 13 mlynedd mewn grym.

Ydi hynny yn ddigon o amser i adennill y gefnogaeth a gollwyd?

Patrwm hanesyddol

Wel ddim os ydych chi'n edrych ar y patrwm hanesyddol.

Dim ond unwaith, yn etholiad Chwefror 1974, mae plaid wedi colli etholiad wedi dim ond tymor mewn grym.

A bryd hynny dim ond crafu i ffurfio llywodraeth wnaeth y blaid Lafur.

Mae'r tebygolrwydd y byddai'r blaid Lafur yn ennill mwyafrif yn llai fyth.

Does yna'r un achos yn yr 80 mlynedd ddiwethaf pan fo plaid wedi dychwelyd i rym gyda mwyafrif wedi dim ond tymor fel gwrthblaid.

Gyda'r gefnogaeth bresennol, mae Llafur yn annhebygol o newid y patrwm yna, ond mae'n ddigon posib y gwnawn nhw ddigon i sicrhau goriadau rhif 10 Downing Street i Ed Miliband, ac fe fydd y canlyniad yng Nghymru yn holl bwysig.