Y ddadl dros deledu Saesneg yng Nghymru

Tony Hall
Image caption Dywedodd Tony Hall y llynedd bod rhaglenni Saesneg wedi "erydu" dros y blynyddoedd diwethaf

Fis Ebrill y llynedd roedd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Hall, yng Nghaerdydd i gyfleu ei bryderon bod rhaglenni teledu Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd Cymreig wedi dirywio dros y ddegawd ddiwethaf.

Galwodd am drafodaeth ynglŷn â sut i atal yr "erydu" mewn rhaglenni.

Flwyddyn ers ei araith, sut mae'r diwydiant wedi ymateb?

Roedd 'na ambell wên o gydnabyddiaeth pan heriodd yr Arglwydd Hall ei gynulleidfa yng Nghaerdydd y llynedd.

Yn ei araith am ddirywiad rhaglenni Saesneg ar setiau teledu Cymreig roedd 'na wirionedd cyfarwydd i rai o'r cynhyrchwyr teledu oedd wedi ymgynnull yn neuadd y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Wrth ddatgan bod rhaglenni Saesneg wedi "erydu" dros y blynyddoedd diwethaf, roedd 'na awgrym o ddirywiad naturiol i'r sefyllfa.

Ond nid oedd modd osgoi neges Tony Hall mai diffyg arian oedd wedi cyfrannu at benderfyniad BBC Cymru i flaenoriaethu rhaglenni newyddion, materion cyfoes a ffeithiol yn hytrach na'r dramâu, comedïau a chyfresi adloniant drytach.

Er i'w sylwadau dargedu'r diwydiant teledu yn ehangach yng Nghymru, ei sefydliad ei hun dderbyniodd y rhan helaeth o'r craffu ar ôl ei araith.

Traddodiad Cymru

Mae dramâu i deledu rhwydwaith fel Doctor Who, Sherlock a Casualty wedi hybu traddodiad Cymru o gynhyrchu rhaglenni teledu.

Ond rhaglenni yn benodol sydd wedi eu cynhyrchu yng Nghymru, sydd hefyd yn adlewyrchu bywyd Cymru, a oedd wedi erydu yn ôl Tony Hall.

Aelodau'r diwydiant oedd yn gynulleidfa iddo, ond roedd cryfder ei eiriau yn syndod i rai. Fe wrandawodd y cynhyrchydd annibynnol Angela Graham ar yr araith.

"Pwy fyddai'n methu â synnu wrth i gyfarwyddwr cyffredinol y BBC ddod i Gymru, digwyddiad digon anghyffredin, a chydnabod yr erydu sydd wedi digwydd i raglenni Saesneg dros y ddegawd ddiwethaf?" gofynnodd.

"Mae'n syndod gan nad ydi sefydliadau yn dueddol o wirfoddoli eu gwendidau yn gyhoeddus.

"Felly mae'r ffaith bod y cyfarwyddwr cyffredinol wedi canolbwyntio ar wendid yng ngwasanaeth y BBC yng Nghymru yn arwyddocaol iawn. Faswn i'n galw hi'n game changer."

'Anhygoel'

Ymhlith yr holl ddarlledwyr cyhoeddus mae lefelau'r rhaglenni Saesneg wedi disgyn. Mae'n dueddiad mae Angela Graham wedi sylwi arno.

"Rwy'n cymryd diddordeb penodol mewn rhaglenni dogfen am wyddoniaeth, ac rwy'n gofyn i bobl 'Pryd oedd y tro diwetha' i chi weld rhaglen ddogfen am wyddoniaeth gafodd ei gynhyrchu yng Nghymru, nad oedd yn delio gyda byd natur?'

"Dydw i erioed wedi dod ar draws unrhyw un a oedd yn gallu meddwl am raglen o'r 25 mlynedd diwethaf, falle'r 30 mlynedd diwethaf. Ac mae hynny'n ymddangos yn anhygoel.

"Er bod llywodraeth Cymru yn trio ysgogi pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth, ac mae ymchwil gorau'r byd yn digwydd yng Nghymru, dydi'r Cymry ddim yn gweld eu hunain ar deledu yn Saesneg fel gwyddonwyr."

Image caption Satellite City - un o raglenni comedi BBC Cymru Wales o'r gorffennol

Hen raglenni Saesneg BBC Cymru Wales

Belonging (2000-2008. Eve Myles oedd yn serennu yn y gyfres ddrama hon, a oedd wedi'i lleoli yng nghymoedd y de).

Satellite City (Dechreuodd ym 1996. Comedi gyda'r actor Boyd Clack yn serennu fel aelod o deulu Cymreig a oedd wedi croesawi Americanwr i'w plith).

The Coal House (Cyfres realiti oedd yn dilyn teuluoedd Cymreig wrth iddynt ymdopi hefo bywyd ym mythynnod y glowyr yn ystod y 1920au a'r 1940au).

High Hopes (Cyfres gomedi poblogaidd gafodd ei ddarlledu o 2002-2009. Fe ddaeth yn ôl am raglen arbennig yn 2015).

The Slate & On Show (Cyfresi oedd yn adolygu'r celfyddydau).

The Bench (Drama gyfreithiol wedi'i lleoli mewn llys ynadon, gafodd ei darlledu yn 2001-2002).

Derbyn y diffygion yn yr arlwy mae cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies.

Dywedodd: "Rwy'n credu bod gwariant ar deledu iaith Saesneg wedi gostwng 30% neu 35% dros y saith neu wyth mlynedd diwethaf, felly roedd Tony yn cydnabod y canlyniadau i hynny - sef wrth amddiffyn gwasanaethau pwysig fel newyddion, mae 'na lai o arian i fannau eraill o'n bywyd cenedlaethol allai gael eu portreadu drwy ddrama, comedi neu adloniant."

Rhybudd i wleidyddion

Yn dilyn araith Tony Hall, mi wnaeth cynhyrchwyr o fewn y BBC a'r sector annibynnol ofyn a oedd y cyfarwyddwr cyffredinol wedi dod â'i waled i Gaerdydd.

Ond prinder arian parhaol sy'n ymddangos fel prif esboniad y darlledwyr am y dirywiad yn nifer y rhaglenni iaith Saesneg.

"Mae'r BBC wedi wynebu toriadau ariannol o 26% yn nhermau real dros y pedair blynedd diwethaf, a does 'na ddim potiau hud sy'n cynnwys arian," meddai Mr Talfan Davies.

"Ond rwy'n credu'r hyn yr oedd Tony yn ei ddweud oedd bod rhaid i ni feddwl am sut rydyn ni am i Gymru gael ei gwasanaethu gan ddarlledwyr cyhoeddus dros y blynyddoedd i ddod."

Image caption Mae cyfarwyddwr BBC Cymru Wales Rhodri Talfan Davies yn derbyn y diffygion yn yr arlwy

Ystadegau

Ar gyfartaledd mae pobl Cymru yn treulio 4.4 awr y dydd yn gwylio'r teledu. Dyma'r ffigwr uchaf ymhlith gwledydd y DU, o'i gymharu â chyfartaledd o 3.9 awr.

Mae tua 48% o bobl yn gwylio teledu a chynnwys fideo ar-lein, ac mae cyfran y rheiny sy'n gwylio teledu dal-i-fyny yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU (35% o'i gymharu â 32%).

Roedd cyfanswm gwariant y BBC ac ITV Cymru ar raglenni materion cyfoes ar gyfer pobl yng Nghymru wedi codi 15% o flwyddyn i flwyddyn.

Fodd bynnag, roedd hyn wedi'i gydbwyso â gostyngiad yn y gwariant ar raglenni newyddion a rhaglenni heb fod yn newyddion, y naill i lawr 5% a'r llall i lawr 8%, gan arwain at ostyngiad o 5% dros y flwyddyn gyfan.

Ffynhonnell: Adroddiad Ofcom - Y Farchnad Gyfathrebu 2014

Er i'r BBC fod yn destun llawer o'r drafodaeth ers ymweliad Tony Hall, mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus arall wedi gwneud newidiadau hefyd, er nad yw hynny o ganlyniad i sylwadau'r cyfarwyddwr cyffredinol o reidrwydd.

Doedd ITV Cymru ddim eisiau cael eu cyfweld am y pwnc, ond mae'r sianel yn darlledu pedair awr o raglenni newyddion, a 90 munud o raglenni heb fod yn newyddion i'w cynulleidfa Gymreig.

Tra bo'r nifer o raglenni yn annhebygol i gynyddu, mae comisiynwyr ITV wedi dechrau cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r sector annibynnol yn y gobaith weld cynnydd yn nifer y rhaglenni sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru ond sy'n cael eu dangos ar ITV ar draws y DU.

Ond mae dyddiau ITV Cymru o gynhyrchu dramâu a chyfresi comedi yn ymddangos yn rhywbeth o'r gorffennol.

Tra ei fod wedi darlledu rhaglenni dogfen fel 'The Mountain' a 'My Grandfather Dylan' yn ddiweddar, mae mathau eraill o raglenni yn parhau'n rhy gostus i sianel Gymreig y darlledwr eu comisiynu.

Mae cynnwys sy'n cael ei wneud yng Nghymru, er nid yn adlewyrchu bywyd Cymraeg o reidrwydd, yn debygol o gynyddu ar Channel 4.

Fel rhan o adnewyddiad ei drwydded 10 mlynedd, mae'r sianel wedi addo treblu ei gwota ar gyfer rhaglenni sy'n cael eu cynhyrchu'r tu allan i Loegr o 3% i 9% erbyn 2020.

Image copyright ITV Wales/Huw John
Image caption Mae ITV Cymru yn darlledu pedair awr o raglenni newyddion pob wythnos

Amser trafod

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhywfath o'r "meddwl" am y maes wedi digwydd yn gyhoeddus.

Cynhaliodd Sefydliad Materion Cymreig gynhadledd cyfryngau yng Nghaerdydd fis Rhagfyr, ble daeth darlledwyr a chwmnïau cynhyrchu at ei gilydd i drafod y pynciau llosg sy'n wynebu'r diwydiant.

Mae'r sefydliad nawr yn cynnal archwiliad o'r cyfryngau sy'n gobeithio nodi pa agweddau o fywyd Cymreig sydd wedi'u hadlewyrchu gan y darlledwyr, a pha rai sydd ddim.

Ond mae 'na drafodaeth ddwysach, a llawn goblygiadau, ar y gorwel. Wedi'r etholiad cyffredinol fis Mai, mae'r broses o drafod Siarter Frenhinol newydd y BBC yn dechrau, gyda'r casgliadau yn cadarnhau blaenoriaethau ac ariannu'r BBC am ddegawd o 2017.

Ac er i gryfder geiriau Tony Hall y llynedd synnu rhai yn ei gynulleidfa, roeddynt hefyd yn rybudd i'r gwleidyddion a'r pwysigion oedd yn eistedd ymhlith gweithwyr y diwydiant teledu.

Fe fydd e'n disgwyl iddyn nhw lobïo'n galed dros y misoedd i ddod, yn enwedig gan y gall canlyniadau ariannol a golygyddol y broses o adnewyddu'r siarter benderfynu a oes modd gwyrdroi'r erydiad yn rhaglenni teledu iaith Saesneg i Gymru.

Straeon perthnasol