Diwrnod Cymru Fyw yng Nghaerfyrddin

Taith Etholiad BBC Cymru yng Nghaerfyrddin
Image caption Taith Etholiad BBC Cymru yng Nghaerfyrddin

Marchnad Caerfyrddin bore Mercher ac mae 'na ddigon o fynd a dod.

Mae'r caffi yn brysur, yn llawn pobl sydd wedi ymddeol sydd yn rhoi'r byd yn ei le ac wrth basio stondin neu ddwy dwi'n clywed hwn a'r llall yn rhoi eu harcheb arferol.

Yn ôl un cyn ffarmwr dyma'r diwrnod gore i ddod i'r dre.

Mae e yn teimlo bod prisiau "popeth yn mynd lan, dim byd yn mynd lawr".

Mi oedd ei fab yn colli £3,000 y mis gyda First Milk, meddai tan iddyn nhw newid cyflenwr.

Tydi o ddim yn siwr pwy fydd yn derbyn ei bleidlais y tro yma.

Image caption Siarad yn llawn angerdd mae Rose Leaf wrth drafod gwleidyddiaeth

'Gweithio yn galed'

Mae Eleanor Roberts mewn sefyllfa debyg. Gwerthu llyfrau a nwyddau Cristnogol mae hi. "Mae 'na Aelod Seneddol da yma.

"Mae'n gweithio yn galed (Simon Hart).

"Yr unig beth sy'n atal fi rhag pleidleisio ar ei gyfer e yw bod hi'n bleidlais i'r Ceidwadwyr a dwi ddim yn hapus gyda'u polisïau nhw sydd yn ymwneud â materion Cristnogol."

Mi wyliodd hi uchafbwyntiau'r ddadl deledu gyntaf. "Odd dim un ohonyn nhw wedi creu argraff arnai."

Siarad yn llawn angerdd mae Rose Leaf wrth drafod gwleidyddiaeth.

"Dwi ddim wedi cael llond bol eto!"

Mi fydd y fenyw fusnes sydd yn gwerthu nwyddau ail law yn bendant yn pleidleisio.

"Dw i'n gobeithio gydag Ed Miliband wrth y llyw y bydd Llafur yn mynd i'r chwith os 'eith nhw mewn. Dw i'n gobeithio gewn ni rhein mas."

Mae'n teimlo bod y Ceidwadwyr wedi creu diwylliant o feio ac mai'r bobl ar fudd-daliadau yw'r 'bwch dihangol' ar gyfer y problemau economaidd.

"Mae angen i ni fynd nôl i sut oedd pethe o'r blaen, i fod yn gymdeithas drugarog. Mae pawb yn beio pawb."

Image caption Mae Sarah Harrison yn dweud bod ganddi hi fwy o ddiddordeb y tro yma a bod hynny'n wir ymhlith ei ffrindiau

Negyddiaeth

Mae Vicky Lillycrop yn teimlo bod 'na lot o negyddiaeth hefyd.

Dyna pam fod y fyfyrwraig yn awyddus i wybod beth ydi'r ffeithiau ac i ddysgu mwy am y polisïau. Mae ei ffrind, Sarah Harrison, yn dweud bod ganddi hi fwy o ddiddordeb y tro yma a bod hynny'n wir ymhlith ei ffrindiau.

Mae ymddangosiad y pleidiau bach wedi gwneud pethau yn fwy cyffrous meddai am fod 'na wahaniaeth mawr yn yr hyn mae rhai o'r pleidiau yn credu.

Un blaid fyddai'r fam ifanc yn hoffi gweld yn rheoli yn hytrach na chlymblaid.

"Ma pobl yn sôn am y glymblaid ond rili ti jest yn meddwl amdano fe fel llywodraeth Geidwadol. Ma' pobl yn anghofio am y Democratiaid Rhyddfrydol a dyna mae'n siwr ddigwyddith eto gydag un blaid yn llywyddu,' meddai Vicky.

Ond mae Josh Lowe sydd yn 24 oed yn dweud na fydd mwyafrif ei ffrindiau o'n mynd i bleidleisio.

"Os nad ydi pethau yn effeithio nhw yn y tymor byr dydyn nhw ddim yn poeni."

Mae o'n bwriadu pleidleisio. Ond dydy o ddim yn ymddiried mewn gwleidyddion.

"Pe bydden nhw yn treulio llai o amser yn beio ei gilydd ac yn hytrach dweud wrthon ni'r hyn mae'n nhw yn bwriadu gwneud efallai bydden nhw yn cyflawni mwy."

'Yr economi yw'r peth pwysicaf'

Simon Hart sydd wedi cael pleidlais pensaer sydd yn gweithio yn y dref. Mae o wedi rhoi ei groes yn barod.

"Dw i wedi foto Plaid Cymru erioed. Ma'r blaid yn dda dros Gymru ac yn y Cynulliad ond yr economi yw'r peth mwyaf pwysig," meddai.

Mae o'n grediniol bod angen dod â'r ddyled i lawr ac mai pobl ifanc fydd yn dioddef oni bai bod hynny'n digwydd.

Mae gan y Ceidwadwyr fwyafrif o dros 3,000 yn yr etholaeth yma. Ond mae'r blaid Lafur yn trio ei dwyn hi nôl.

"Os ydi Llafur am ennill mwyafrif yna mae'n rhaid iddyn nhw ennill seddi fel hon," meddai James Williams, gohebydd seneddol BBC Cymru.

I wneud hynny mi fydd rhaid iddyn nhw weithio yn galed oherwydd bod yr arolygon barn yn awgrymu y bydd yna eraill fel y pensaer yn bwrw'u pleidlais eto dros yr Aelod Seneddol presennol.