Ymgeisydd UKIP yn ystyried mynd â'r blaid i'r llys

UKIP rosette Image copyright PA
Image caption Gwrthododd UKIP yn ganolog gais gan bwyllgor Cymreig y blaid i gael gwared ar Norma Woodward fel ymgeisydd seneddol

Mae un o ymgeiswyr UKIP yn yr etholiad cyffredinol wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn ystyried dwyn achos cyfreithiol yn erbyn ei phlaid ei hun.

Yn ôl Norma Woodward, sy'n sefyll yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae hi wedi cael ei bwlio a'i henllibio gan bwyllgor Cymreig UKIP.

Dywedodd y blaid fod sylwadau Ms Woodward yn "bryder mawr", ond nad oeddynt yn ymwybodol o'i phryderon.

Ceisiodd y blaid gael gwared ar Ms Woodward fel ymgeisydd ym mis Mawrth mewn cysylltiad â rheolaeth un o gyfrifon banc y blaid, ond cafodd y penderfyniad ei wrthod.

Dywedodd pencadlys y blaid yn y DU nad oedd gan y pwyllgor yng Nghymru'r hawl i ddiarddel ymgeiswyr, ac y byddai Ms Woodward yn parhau ar y rhestr.

Mae Ms Woodward wedi dweud wrth BBC Cymru fod yr honiadau yn ei erbyn yn enllibus a'i bod wedi cael ei thrin yn wael gan y blaid yng Nghymru.

Image copyright UKIP Wales
Image caption Mae Norma Woodward yn honni iddi gael ei bwlio a'i henllibio gan aelodau Cymreig UKIP

'Anodd eithriadol'

"O'r dechrau'n deg rwyf wedi wynebu bwlio, enllibio a gwahaniaethu ar sail rhyw gan 'mod i'n ddynes," meddai.

"Mae hyn oll wedi gwneud pethau'n anodd eithriadol.

"Mae'r ymgyrchu ei hun yn syml, mae'r gwaith yn hawdd.

"Y bwlio sydd wedi bod yn anodd delio ag o ac felly hoffwn y cyfle i glirio fy enw gan nad ydw i wedi gwneud unrhyw un o'r pethau dwi wedi cael fy nghyhuddo ohonyn nhw yn y wasg yn lleol ac ar wefannau fel Facebook a Twitter.

"Mae UKIP fel plaid yn ganolog wedi bod yn hynod gefnogol, yn enwedig yr arweinydd (Nigel Farage) a'r cadeirydd (Steve Crowther), sydd wedi bod yn gefnogol iawn, iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP yng Nghymru: "Mae pwyllgor Cymreig UKIP yn bryderus iawn am y sylwadau hyn, sydd ond wedi dod i'n sylw nawr.

"Petai'r pwyllgor wedi cael gwybod am y pryderon yma ynghynt, yna bydden ni wedi gallu ymchwilio'n syth.

"Yn y cyfamser byddwn yn parhau i drafod y materion sydd bwysica' i bobl Cymru, materion y mae gwleidyddion y sefydliad yn parhau i'w hanwybyddu."