Gêm gyfartal i Forgannwg

Fe orffennodd y gêm rhwng Morgannwg a Surrey ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn gyfartal yn Stadiwm Swalec.
Roedd canlyniad positif i'r naill dîm neu'r llall yn annhebygol pan sicrhaodd Morgannwg ddigon o rediadau yn eu batiad cyntaf fel nad oedd rhaid iddyn nhw fatio eto'n syth.
Ar y diwrnod olaf ddydd Mercher, aeth Surrey yn eu blaenau i gyrraedd cyfanswm o 207 am 4 wiced cyn dirwyn y batiad i ben.
Roedd hynny'n golygu fod gan y tîm cartref y nod annhebygol o sgorio 352 mewn ychydig dros dair awr i ennill.
A bod yn blwmp ac yn blaen, ni wnaeth Morgannwg ymdrech go iawn i gyrraedd y nod gyda'r ddau fatiwr agoriadol yn bodloni i beidio mynd allan.
Pan ddaeth pump o'r gloch fe gytunodd y ddau dîm i ddod â'r gêm i ben yn gynnar gan nad oedd gobaith i'r naill na'r llall ennill.
Fe gafodd Morgannwg 9 pwynt bonws, a Surrey'n sicrhau 12.
Morgannwg v.Surrey - Gêm gyfartal
Surrey - batiad cyntaf: 563 am 7 (Stephen Davies 200 hfa, Kumar Sangakkara 149)
Morgannwg - batiad cyntaf: 419 (Craig Meschede 101 hfa)
Surrey - ail fatiad: 207 am 4
Morgannwg - ail fatiad: 116 heb golled