Cyfraniad Cymry Llundain

Huw Edwards Image copyright S4C

Mae Llundain wedi bod yn gyrchfan i genedlaethau lawer o Gymry. Mewn cyfres newydd ar S4C bydd y darlledwr Huw Edwards yn rhannu stori rhai o gymeriadau lliwgar a dylanwadol o blith Cymry Llundain sydd wedi cyfrannu yn helaeth i hanes a datblygiad un o ddinasoedd mwya'r byd. Mae Huw hefyd wedi rhoi cipolwg ar hanes cyfoethog yr alltudion i Cymru Fyw:

'Pryfoclyd'

Prif rinwedd Llundain yw ei amrywiaeth. Y mae profi bywyd amlieithyddol ac amlddiwylliannol y ddinas yn beth i'w drysori. Ond y gwir yw bod stori Cymry Llundain, un o leiafrifoedd ethnig hynaf y ddinas, yn rhyfeddol o anghyfarwydd.

Yn fy nghyfres newydd ar S4C, Huw Edwards a'r Cymry Estron - Stori Cymry Llundain, rwy'n ceisio adrodd stori gymhleth a bywiog mewn tair pennod o awr yr un… tipyn o her a dweud y gwir.

Mae Cymry Estron yn deitl pryfoclyd - ar bwrpas - gan mod i'n gwahodd y gwyliwr i ystyried o'r newydd y cyfraniad a wnaed gan y gymuned Gymraeg fwyaf y tu hwnt i Glawdd Offa.

Dyma gymuned a fu'n ddylanwad enfawr ar fywyd cenedlaethol Cymru, a chymuned sy'n dal yn awyddus i wneud cyfraniad yn y blynyddoedd i ddod, gan ystyried y cyfle a ddaw yn sgîl yr holl newid yng nghyfundrefn y Deyrnas Unedig.

Edrychwch o'ch cwmpas ac fe welwch ddigon o gofebau i ddycnwch a chyfraniad y Cymry yn Llundain: y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd.

Peth braf fyddai gallu ychwanegu Prifysgol Cymru ond mae tranc y corff hwnnw fel sefydliad cenedlaethol yn destun tristwch i nifer ohonom.

Image copyright Geograph
Image caption Llundain a'r Eisteddfod: Cofeb Iolo Morganwg, Bryn y Briallu (Primrose Hill)

Oes y Tywysogion

Ond sut mae cychwyn yr hanes? Mae nifer o'n haneswyr disglair yn nodi 1485, a dyfodiad Harri Tudur, fel man cychwyn y gymuned Gymreig yn Llundain.

Wedi'r cyfan, fe ddethlir gwreiddiau Cymreig Harri (roedd yn chwarter Cymro, fel mae'n digwydd…) ac fe ddaeth â byddin fechan o Gymry i Lundain ar ôl iddo gipio coron Lloegr ar Faes Bosworth.

Ond mae 'na ddigon o dystiolaeth o bresenoldeb Cymreig yn Llundain ymhell cyn coroni Harri VII.

Fe ddechreuwn y gyfres yn Nhŵr Llundain ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1244, pan syrthiodd y tywysog Gruffydd ap Llywelyn Fawr i'w farwolaeth wrth geisio dianc.

Mae 'na stryd gul ger y Tŵr, Petty Wales, ac mae haneswyr yn barnu mai cyfeiriad yw hwnnw at gyswllt hynafol â'r tywysogion o Gymru a ddeuai i Lundain cyn y Goresgyniad.

Arwyr

Gerllaw saif All Hallows by the Tower, eglwys hynaf Dinas Llundain, lle bu nifer o Gymry yn addoli dros y canrifoedd, gan gynnwys Owain Myfyr, masnachwr cyfoethog ac un o'r caredigion mwyaf hael a welwyd erioed yn hanes diwylliant Cymru.

Noddwyd nifer o brosiectau mawr ganddo, gan ddiogelu rhai o'n campweithiau llenyddol. Y mae Owain Myfyr yn arwr mawr i bawb ohonom sy'n caru diwylliant a llenyddiaeth Cymru.

Mae 'na ddigon o arwyr eraill yn stori Cymry Llundain.

Yn eu plith fe gawn Syr Hugh Myddelton, y peiriannydd a sefydlodd gyflenwad dŵr ffres i drigolion canol Llundain; Syr Hugh Owen, prif sylfaenydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Syr Benjamin Hall ('Big Ben') a'i wraig ryfeddol Arglwyddes Llanover, un arall o noddwyr hael ein diwylliant; David Lloyd George, gwleidydd radical a phrif weinidog nodedig, a'i wraig Margaret, arwres a fu'n asgwrn cefn i gymaint o achosion da.

Image caption Mae cyfraniad y peirianydd o Gymro, Syr Hugh Myddleton, yn cael ei gydnabod ar ffurf cofgolofn yn Islington Green

Bu Margaret Lloyd George yn allweddol yn yr ymgyrch i godi capeli newydd i Gymry Llundain. Peth anodd fyddai deall ffurf cymdeithas Cymry Llundain heddiw heb ddeall rôl y capeli a'r eglwysi Cymraeg eu hiaith.

Dros gyfnod o ganrif, rhwng 1850 and 1950, dyma oedd prif ganolfannau bywyd cymdeithasol a chrefyddol y Cymry yn Llundain.

'Ymdopi â newidiadau'

Do, fe gafwyd Clwb Cymry Llundain, ond bu'n rhaid aros tan y 1930au cyn cael hwnnw. Ac felly'r capel (a'r eglwys) oedd yn darparu rhwydwaith arbennig ar gyfer cymuned fawr y Cymry yn Llundain.

Cawn weld y canlyniadau o'n cwmpas heddiw, er bod y rhwydwaith wedi gwanhau, ac os byddwn yn methu sylweddoli pwysigrwydd y mannau addoli, fe fyddwn yn colli darn enfawr o'r stori.

Un o'r pethau mwyaf godidog am fywyd Llundain yw bod y ddinas yn newid yn ddi-ffael, o flwyddyn i flwyddyn. A'r dasg yn y gyfres hon yw gosod Cymry Llundain yn y cyd-destun arbennig hwnnw, sef cymuned sy'n gorfod ymdopi â newid cyson.

Image copyright S4C
Image caption Mae cymdeithas Gymreig y ddinas yn dal i ffynnu yng Nghanolfan Cymry Llundain

Bu'n rhaid i'r gymuned honno ddatblygu, ond fe lynodd hefyd at rai traddodiadau pwysig. Y gobaith yw y bydd gwylwyr Cymry Estron yn cael mwy o afael ar amrywiaeth y ddinas, a rhan y Cymry ym mywyd cyfoethog un o ddinasoedd mawr y byd.

Y cwestiwn ar ddechrau'r gyfres yw hwn: pam trafod Cymry Llundain? Rwy'n ceisio dangos bod eu stori nhw yn berthnasol i'ch stori chi.

Mae hanes Cymru a hanes Cymry Llundain wedi eu cydblethu'n glos. Ie, Cymry 'estron', ond Cymry sy'n rhan annatod o stori Cymru.

Huw Edwards a'r Cymry Estron - Stori Cymry Llundain, S4C, Nos Sul 26 Ebrill 20:00