Ble mae'r bandiau 'gwleidyddol'?

Catatonia
Image caption Roedd Catatonia yn un o'r bandiau oedd ar eu hanterth pan bleidleisiodd pobl Cymru yn y refferendwm ar ddatganoli

Yn ystod refferendwm 1997 pan bleidleisiodd Cymru 'Ie' dros ddatganoli a chreu'r Cynulliad Cenedlaethol roedd bandiau fel Catatonia, Super Furry Animals a'r Manics ar eu hanterth, a hynny yn rhyngwladol.

Ro'n i a mwyafrif y genedl mewn cariad a Cerys Matthews - a Gruff Rhys a James Dean Bradfield yn enwau cyfarwydd mewn cartrefi ar draws y wlad.

Roedd Cymru 'nôl ar y map oherwydd y gerddoriaeth wych oedd yn dod mas o'r wlad, a'r ymdeimlad o falchder yn ein hunaniaeth ar wefusau pawb wrth i ni ganu "everyday when I wake up, I thank the Lord I'm Welsh".

Fe alle' chi ddadlau bod cerddoriaeth wedi cael dylanwad mawr ar wleidyddiaeth y cyfnod ond wrth gwrs, mae'n anodd iawn mesur hyn - sut mae mesur angerdd?

'Ddim yn neud synnwyr'

Image caption Dyw'r diffyg cerddoriaeth gwleidyddol ddim yn gwneud synnwyr i Iolo Selyf

18 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dipyn o anialwch mas 'na o ran bandiau o Gymru sy'n gwthio negeseuon gwleidyddol.

Ac mae 'na ddau berson adnabyddus yn poeni'n ddifrifol am hyn. Un ohonyn nhw yw Iolo Selyf, prif leisydd 'Y Ffug', sy'n 18 oed o Grymych.

"Mae'r ffaith bod cyn lleied o gerddoriaeth sy'n cyfleu'r teimlad 'na o 'dyma di'r system, ni'n anhapus gyda fe', ma' hwnna'n r'wbeth sydd ddim yn neud synnwyr i fi wrth ystyried y sefyllfa wleidyddol ar y foment."

Yn ôl Iolo mae 'na alw am gerddoriaeth wleidyddol, ond mae'n bosib nad yw gwleidyddiaeth yn berthnasol i fandiau ifanc ar y foment gan nad ydyn nhw'n teimlo unrhyw gysylltiad gyda'r sefydliad na'r system.

'Anialwch'

Image caption Mae Cian Ciaran yn dweud nad yw'r un angerdd gan fandiau heddiw

Mae Cian Ciaran o'r SFA yn mynd gam ymhellach, mewn erthygl i'r Guardian rhai wythnosau yn ôl dywedodd y byddai'n hoffi gweld rhai o artistiaid mwyaf Prydain fel Ed Sheeran, George Ezra a Sam Smith yn ymuno yn yr ymgyrch a defnyddio eu henwogrwydd a'u lleisiau i ledaenu negeseuon gwleidyddol.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd Cian: "Yn yr 80au roedd yr Anrhefn a'r Cyrff yn cael dylanwad mawr ar bobl ac yn gwneud iddyn nhw feddwl am eu sefyllfa gymdeithasol.

"Mae'r hanes yna ond am ryw reswm, dros y 15 mlynedd diwethaf mae 'na anialwch wedi bod."

Mae Cian hefyd yn meddwl bod cerddoriaeth yn rhywbeth pwerus iawn y gall bobl uniaethu gyda, ac yn rhywbeth y gall pobl ifanc gario gyda nhw ar hyd eu bywydau.

Ond sut mae denu bandiau ifanc i wneud hyn?

"Mae'n rhaid bod yr angen a'r angerdd yna yn y lle cyntaf," meddai Cian. "Dwi ddim yn gwybod os oes 'na ateb ond mae yn bwysig trio."

'Bandiau yn gwylltio'

Image caption Aeth Nia Medi i holi rai o ddisgyblion Ysgol Bodedern fel rhan o gyfres Atebion

Ac mae Iolo yn meddwl ei bod hi'n bwysig i'r sin gerddoriaeth droi yn fwy gwleidyddol dros y blynyddoedd nesaf.

"Hoffwn i weld mwy o fandiau yn gwylltio, mae'n bach o siom i fi ar y foment bod cyn lleied o hyn yn digwydd a dwi rili yn gobeithio gweld mwy o fandiau Cymraeg yn deffro yn y dyfodol."

Bydd effaith cerddoriaeth ar wleidyddiaeth yn cael ei drafod mewn pennod arbennig o 'Atebion' gyda Nia Medi ar BBC Radio Cymru.

Bydd y rhaglen yn fyw o Dregaron ddydd Gwener, 24 Ebrill am 17:30.