Etholiad 2015: Y frwydr yn yr Alban

Inverness
Image caption Prifddinas yr "Highlands" - Inverness

Fel yn ne'r Alban mae awgrym y daw ton o newid yn Ucheldir yr Alban hefyd.

Ym mhedair o etholaethau mwyaf gwledig Prydain, mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol bedwar aelod seneddol profiadol.

Ond o gredu'r arolygon barn cyson, fel efallai yn seddi Llafur yn ne'r Alban, mae swnami SNP ar fin torri dros y tir mynyddig hefyd.

Prifddinas yr Highlands ydi Inverness - dinas sy'n agos at bencadlys etholaeth Danny Alexander, y cyn-weinidog cyllid yn y Trysorlys, ac sy'n agos at etholaeth Charles Kennedy, a fu'n arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am 6 mlynedd.

Yn y trefi a mân bentrefi ar hyd a lled rhanbarth sy'n bychanu Cymru o ran maint, mae posteri pleidgar i bob ymgeisydd.

Ond ai camarweiniol ydi hynny?

Anniddigrwydd

Mewn dau gyfarfod gwleidyddol, gyda'r saith sy'n ymgeisio yn Ross, Skye a Lochaber ag Inverness, Nairn, Badenoch a Strasthspey, roedd ymateb a chwestiynau'r gynulleidfa yn datgelu anniddigrwydd gyda'r Rhyddfrydwyr.

Y bai am hynny, medd llawer wrtha'i yn ystod y dyddiau diwethaf, ydi clymblaid gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl gohebydd adran newyddion Gaeleg BBC Alba, Iain McClean, mae llawer iawn o bobl yn anhapus bod hen blaid radicalaidd y Rhyddfrydwyr yn yr Ucheldir, wedi cydweithio gyda'r Torïaid, a llawer yn cwyno eu bod wedi bwrw pleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond yna wedi cael y Ceidwadwyr yn eu lle.

Americanes ydi Mary Scammell, ond mae hi wedi byw yn Inverness ers 30 mlynedd.

Mae'n gefnogol i'r SNP ers ymhell cyn y refferendwm fis Medi'r llynedd ar annibyniaeth - ac yn proffwydo y gall pleidlais Alexander a Kennedy ostwng sylweddol.

Mae nifer o sylwebwyr yn mynd ymhellach, a'r darogan mewn arolygon barn bellach ydi y gallai ymgeiswyr yr SNP hyd yn oed gipio'r ddwy sedd wledig yma.

Image caption Posteri'r pleidiau ar strydoedd Inverness

Awch am newid?

Ond dydi'r ymgyrchu ddim drosodd eto. A dydi'r bobl heb fwrw eu pleidlais.

Go brin y bydd cymaint ag 85% yn pleidleisio ar 7 Mai fel yn ystod y refferendwm, ond mae 'na awch am newid.

Wedi dweud hynny, yn hysting Strathpeffer a Inverness roedd yr holl bleidiau - Y Ceidwadwyr, Llafur, Y Blaid Werdd, UKIP ag ymgeiswyr annibynol, yn swnio'n rhyfedd o debyg i'r SNP a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr hyn maen nhw am ei weld yn yr Ucheldir.

Mae 'na bryder am yr economi a gwaith wrth gwrs, a chytundeb bod angen codi isafswm cyflog, ond sut byddai talu am hynny?

Dadlau yr oedd sawl ymgeisydd, y gallai cynnydd mewn cyflog, arwain at gynnydd mewn gwariant yn yr economi leol, yn ogystal.

Cyswllt y wê a band llydan ar gyfer busnesau sy'n gur pen arall.

Eto roedd y pleidiau yn od o debyg wrth addo brwydro i wella'r ddarpariaeth yma, a gwella lonydd anodd y rhanbarth fel bod modd teithio'n fwy hwylus i Perth a Stirling a dinasoedd y de.

Anghenion lleol

Mae Danny Alexander yn amddiffyn mwyafrif o 8,700 yn Inverness.

Ond roedd ei osgo yn anghyfforddus yn y cyfarfod gwleidyddol y gwelais i.

Roedd yn awdurdodol wrth drafod ffigyrau a chostau fel byddai'n weddus o weinidog y Trysorlys, ond roedd ei wrthwynebwyr yn gryfach ar yr anghenion lleol.

Doedd o fawr o help iddo fod yr ymgeisydd Ceidwadol yn cytuno cymaint gydag Alexander.

Anodd oedd canfod canfaswyr ei blaid ar y strydoedd.

Yn Ross, Skye a Lochaber mae mwyafrif Charles Kennedy yn 13,000 - a 32 mlynedd o brofiad ganddo.

Ond mae'r SNP wedi bod yn weithgar ers Ionawr, yn tanseilio ei berfformiad yn San Steffan, yn ei gyhuddo o beidio â mynd i'r Senedd i bleidleisio, nad oedd yn holi cwestiynau rhyw lawer a'i fod gartref yn lle yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ymateb pwyllog Kennedy i hyn ydi ei fod wedi gweithio mwy yn yr etholaeth gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr Alban yn sgil y trafod a ddylai'r wlad fod yn wladwriaeth annibynol o'r Deyrnas Gyfunol ai peidio.

Image caption Mae Danny Alexander yn amddiffyn mwyafrif o 8,700 yn Inverness

Pell o Lundain

Pynciau trafod eraill ydi llongau tanfor niwclear yn Faslane, y diwydiant ymwelwyr sy'n rhan mor bwysig o'r economi yn lleol, ac yn cynnwys cynhyrchu chwisgi a dal eogiaid yn yr afonydd a'r llynoedd.

Does fawr o hoffter i'r ffaith nad oes heddlu a gwasanaeth tân yn lleol - ond bod swyddogion bellach yn rhan o lu Albanaidd.

Mae consyrn bod angen cadw gwasanaethau lleol ar gyfer y trigolion, ond hefyd fel bod modd i dwristiaid ddod yma i wario eu doleri, ewro a sterling.

Agwedd bragmatig felly sydd tu cefn i'r ffaith bod yr awdurdod lleol, Cyngor yr Ucheldir, yn cael ei redeg ar hyn o bryd gan glymblaid Llafur, Y Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP. Gelynion yn genedlaethol, ond cyd-weithwyr yn lleol.

Ac eto, pan ofynnais i Charles Kennedy a fyddai yn dibynnu ar ei gysylltiad lleol er mwyn ceisio cael ei ailethol am yr wythfed tro, dywedodd bod modd dibynnu gormod ar hynny. Yr awgrym oedd ei fod yn ymwybodol iawn fod y gwynt gwleidyddol yn troi.

Y dewis i bobl yr Ucheldir ydi cadw ffydd a'r gwleidyddion maen nhw'n gyfarwydd â nhw. Serch hynny, ers etholiad senedd yr Alban yn 2011 mae'r SNP wedi ennill seddi a chefnogaeth yn y gogledd hefyd.

Ond, os ydi'r Ucheldir yn bell o Lundain, mae hefyd yn bell o Glasgow a Chaeredin.