Taith BBC Cymru: Y frwydr i ennill Ceredigion

Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol
Image caption Mae Mark Williams yn dweud ei fod wedi rhoi ei etholwyr o flaen polisïau'r glymblaid

Mae Ceredigion wedi bod yn y penawdau'n barod yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi i sylwadau gafodd eu gwneud nifer o flynyddoedd yn ôl gan ddau o'r ymgeiswyr ddod i'r amlwg.

Ond pa stori fydd pleidleiswyr yma'n ei darllen ar 8 Mai?

Mae Mark Williams yn gobeithio na fydd y canlyniad yma yn stori fawr. Yr ymgeisydd dros y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi bod yn AS yr ardal am y 10 mlynedd ddiwethaf, a chynyddodd ei fwyafrif i dros 8,000 yn yr etholiad diwethaf.

Ond wrth gwrs, roedd hynny cyn i'w blaid ddewis uno i greu clymblaid â'r Ceidwadwyr a thorri ei addewid i beidio â chynyddu ffioedd prifysgolion.

Gyda'r etholiad yn agosáu, does 'na ddim angen atgoffa'r ymgeiswyr am bwysigrwydd sicrhau pleidleisiau myfyrwyr mewn etholaeth sy'n cynnwys dwy brifysgol.

"Rydw i wedi egluro i bobl bod rhaid gwneud penderfyniad anodd ar amser anodd iawn," meddai Mr Williams.

"Mae pethau cadarnhaol wedi dod o'r glymblaid ond, ar bwnc ffioedd prifysgol yn enwedig, does dim angen atgoffa fy etholwyr pan fo dadl wedi bod rhwng beth mae'r blaid neu'r glymblaid wedi ei wneud a beth mae Ceredigion ei angen, dydw i heb allu cefnogi'r llywodraeth.

"Rydw i wedi gorfod rhoi fy etholwyr yn gyntaf."

Cofiwch fod cwis arbennig ar gyfer holl etholaethau Cymru, gan gynnwys Ceredigion, ar wefan BBC Cymru Fyw.

Image caption Mae Mike Parker eisiau adennill y sedd gollodd Plaid Cymru yn 2005

Er bod Plaid Cymru wedi disgyn yn bellach i ffwrdd o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010, mae eu hymgeisydd Mike Parker yn parhau'n obeithiol o ennill y sedd, gafodd ei lenwi gan y blaid rhwng 1992 a 2005.

"Rydyn ni'n cymryd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei record yn llywodraethu," meddai.

"Rydyn ni wedi eu gweld nhw mewn pŵer am y tro cyntaf ers amser maith a dydi hi heb fod yn olygfa brydferth."

"Dyw beth maen nhw'n ddweud ddim yn cyd-fynd gyda'r hyn maen nhw'n ei wneud."

Image caption Mae Huw Thomas yn gobeithio bydd Llafur yn denu cefnogaeth gan etholwyr sydd am droi eu cefnau ar y Democratiaid Rhyddfrydol

Yn ddiweddar, mae'r etholaeth yma wedi bod yn ras rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, ond mae'r ymgeisydd Llafur, Huw Thomas, yn credu y gallai herio hyn.

"Beth ryw'n ei weld yw llawer o bobl oedd yn arfer pleidleisio i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo'n anhapus iawn gyda'r blaid yn uno mewn clymblaid â'r Torïaid," meddai.

"Hefyd, mae llawer o bobl yn sylweddoli nad yw Plaid Cymru yn gallu rhoi llais cryf sydd ei angen ar y rhan yma o'r byd am eu bod nhw'n rhy fach."

Image caption Mae Gethin James am weld UKIP yn adeiladu a datblygu eu cefnogaeth ar gyfer etholiad y cynulliad flwyddyn nesaf

Daeth UKIP yn ail yng Ngheredigion yn etholiadau Ewrop y llynedd, ac mae eu hymgeisydd Gethin James yn gobeithio adeiladu ar hynny.

"Rydyn ni'n mynd o amgylch y sir ac mae pobl yn awyddus iawn i'n cefnogi," meddai.

"Buaswn i'n hoffi meddwl ar fore 8 Mai fe fydd gen i bleidlais sylweddol, ac yn edrych ymlaen at etholiadau'r Cynulliad flwyddyn nesaf, rwy'n meddwl ei fod yn rhoi ni mewn safle cryf nid yn unig yma yng Ngheredigion ond ledled Cymru."

Image caption Mae ymgeisydd y Blaid Werdd, Daniel Thompson, yn gobeithio bydd ei safbwynt gwrth-lymder yn denu cefnogaeth

Mae gan y Blaid Werdd draddodiad cryf yng Ngheredigion, wedi iddyn nhw helpu Plaid Cymru i ethol Cynog Dafis i'r senedd yn 1992.

Daniel Thompson yw ymgeisydd y blaid yn yr etholaeth.

"Mae pobl yn gwybod y neges. Rydyn ni eisiau newid," meddai.

"Rydyn ni'n edrych ar y pleidiau presennol a dydyn ni ddim yn gweld newid yn dod ganddyn nhw."

"Rydyn ni eisiau gweld dyfodol i Gymru, i Geredigion, sy'n llewyrchus a chynaliadwy."

Image caption Henrietta Hensher yw ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion

Y Ceidwadwyr sy'n cwblhau'r rhestr o ymgeiswyr yng Ngheredigion, gyda Henrietta Hensher yn rhedeg dros y blaid.

"Buaswn i'n dweud ein bod yn cael ein derbyn yn dda iawn, ac mewn termau nad yw'r sedd yn draddodiadol yn un Dorïaidd, dydw i ddim o reidrwydd yn cytuno gyda hynny," meddai.

"Rwy'n cael ymateb da. Rydyn ni'n cael ein neges ar draws i bobl, ac mae pobl yn hapus gyda'r hyn mae'r glymblaid wedi ei gyflawni."

AR GYFER Y NEWYDDION DIWEDDARA A'R HOLL WYBODAETH AM ETHOLAETH CEREDIGION, EWCH DRAW I SAFLE ETHOLIAD BBC CYMRU FYW.