Democratiaid Rhyddfrydol: 'Angen Comisiynydd cyn-filwyr'

Milwr Image copyright MOD

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol mae angen creu swydd Comisiynydd newydd er mwyn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw.

Dywed y blaid y byddai'r Comisiynydd yn gallu sicrhau bod gwahanol adrannau o'r llywodraeth yn cydweithio yn well gyda'i gilydd er budd cyn-filwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Rydym yn gofyn i aelodau'r lluoedd arfog aberthu eu bywydau dros ein gwlad. Felly dyw hi ond yn deg i ni eu cefnogi drwy gydol eu bywydau, pe bai nhw'n parhau yn aelodau o'r lluoedd arfog neu yn gadael.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw am sefydlu "llysoedd ar gyfer cyn-filwyr" a mwy o weithredu ym meysydd iechyd meddwl a lles.

Mae'r Ceidwadwyr am weld "Cerdyn cyn-filwyr" fyddai'n sicrhau blaenoriaeth ar gyfer triniaeth i gyflwr sydd wedi ei achosi oherwydd eu gwaith, a hefyd mynediad di-dâl i byllau nofio a safleoedd CADW.

Yn y cyfamser mae Llafur yn parhau i annog pleidleiswyr pleidiau eraill i bleidleisio yn dactegol ar 7 Mai.

"Mae yna seddi ledled Cymru yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin - lle byddai gogwydd bach o Blaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn rhoi siawns go iawn o gael llond llaw o aelodau seneddol Llafur i San Steffan.

"Fe allai dau neu dri yn fwy o aelodau seneddol Llafur o Gymru, olygu'r gwahaniaeth rhwng cael gwared ar gytundebau dim oriau neu beidio, cael gwared ar y dreth ystafell wely neu beidio, a rhoi terfyn ar y rhyfel ar Gymru, neu beidio."

Bydd Plaid Cymru yn canolbwyntio ar eu hymdrechion i ddenu pobl sy'n pleidleisio am y tro cyntaf.

"Mae tebygrwydd senedd grog yn golygu bod pob pleidlais yn cyfrif, ac mae'n bwysicach nag erioed i bleidleiswyr newydd ddefnyddio eu pleidlais. Mae pleidlais dros Blaid Cymru yn bleidlais dros well trefn gyllido i Gymru, pleidlais i warchod gwasanaethau cyhoeddus, pleidlais dros uchelgais a llewyrch. "

Bydd y Ceidwadwyr yn canolbwyntio eu hymgyrch ar yr economi, gan ddadlau y byddai newid llywodraeth yn dod ar yr adeg waethaf posib o safbwynt economi Cymru.