Heddlu yn ymchwilio ym Mhontypridd

Police van at scene
Image caption Mae Heddlu'r De wedi gofyn i yrrwyr osogoi'r ardal

Mae'r heddlu ym Mhontypridd wedi cau ffordd yn dilyn digwyddiad yn y dref.

Hefyd mae'r fynedfa i'r maes parcio y tu allan i Glwb Rygbi Pontypridd wedi ei chau i'r cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad oedd modd rhyddhau unrhyw fanylion ar hyn o bryd gan fod yr ymchwiliad newydd ddechrau.

Mae plismyn wedi bod yn chwilio yn y llwyni, ac mae hofrennydd y llu wedi bod yn brysur yn chwilio o'r awyr.

Mae yna o leiaf bedwar o gerbydau'r heddlu a 10 plismon ar y safle rhwng Ffordd Sardis a Lanelay Crescent.

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Rygbi Pontypridd: "Y cyngor i gefnogwyr, partneriaid a chymdogion clwb Pontypridd yw nad oes mynediad i stadiwm Ffordd Sardis ar hyn o bryd.

"Mae hynny oherwydd ymchwiliad i'r heddlu i ddigwyddiad o bwys yn yr ardal."

Image caption Does yna ddim mynediad i Stadiwm Ffordd Sardis
Image caption Mae yna o leifa bedwar o gerbydau'r heddlu yn yr ardal