Llofruddiaeth Pontypridd: Cyhuddo dyn

Tracey Woodford Image copyright South Wales Police

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi'i gyhuddo wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn fflat ym Mhontypridd.

Cafodd dyn 50 oed, o'r enw Christopher May, ei gyhuddo wedi i gorff Tracey Woodford, 47 oed, gael ei ddarganfod ychydig cyn 15:00 ddydd Gwener mewn fflat yn Andrews Court, Graig.

Cafodd y corff ei ddarganfod wedi'i dorri'n ddarnau.

Roedd Tracey Woodford wedi bod ar goll ers dydd Mawrth 21 Ebrill.

Bydd Mr May yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pontypridd ddydd Llun.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Sul, ond mae'r heddlu yn disgwyl am ganlyniadau profion pellach cyn dod i benderfyniad ynglŷn ag union achos marwolaeth Ms Woodford.

'Caredig a chlên'

Mewn teyrnged i Ms Woodford ddydd Sul dywedodd ei theulu: "Roedd holl deulu a ffrindiau Tracey yn ei charu. Roedd hi'n berson caredig a chlên, a byddai'n mynd allan o'i ffordd i helpu eraill.

"Roedd Tracey yn berson tyner na fyddai erioed wedi gwneud niwed i unrhyw un, a bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn ei methu'n arw.

Mae'r heddlu am glywed gan unrhyw un oedd yn y Skinny Dog nos Fawrth rhwng 21:00-23:00 wnaeth weld neu glywed unrhyw beth amheus.

Yn ogystal maen nhw am siarad gydag unrhyw un oedd yn ardal Andrews Court, Rickards Street lle cafwyd hyd i'r corff neu unrhyw un wnaeth weld unrhyw beth amheus yn ardal y cae rygbi.

Image caption Cafodd y corff ei ddarganfod ychydig cyn 15:00 ddydd Gwener mewn fflat yn Andrews Court, Graig