Etholiad: Yr effaith ar addysg uwch

Myfyrwyr Image copyright Thinkstock

Does dim dwywaith bod ffioedd dysgu myfyrwyr yn Lloegr wedi bod yn un o'r pynciau mwyaf cythryblus yn ystod misoedd cynnar y Llywodraeth ddiwethaf.

Roedd y lluniau o fyfyrwyr yn chwalu ffenestri ac yn ymosod ar heddweision yn San Steffan yn y penawdau ar hyd a lled y byd.

Gan eu bod nhw'n feysydd sydd wedi eu datganoli, mae hi'n hawdd meddwl na fydd addewidion y pleidiau ar addysg uwch a ffioedd dysgu yn effeithio ar Gymru.

Ond mae hi'n werth cofio pan dreblodd ffioedd dysgu yn Lloegr, roedd yna effaith anferth ar Gymru.

Roedd yn rhaid i brifysgolion fan hyn ddilyn yr un drefn, gyda Llywodraeth Cymru yn creu polisi i dalu am y rhan fwyaf o ffioedd myfyrwyr o Gymru.

Effaith Lloegr ar Gymru

Mae'r blaid Lafur wedi addo torri ffioedd dysgu yn Lloegr o £9,000 y flwyddyn i £6,000.

Ac mae'r Ceidwadwyr am weld mwy o gyrsiau dwy flynedd.

Felly beth fyddai hynny yn ei olygu i sefydliadau i'r gorllewin o Glawdd Offa?

Mae'r Athro Gareth Rees o Brifysgol Caerdydd yn credu ei bod hi'n anochel y byddai Cymru yn dilyn Lloegr:

"Mae'n rhaid i'r prifysgolion yng Nghymru feddwl am beth sy'n digwydd yn Lloegr oherwydd trwy'r 'cross-border flows' mae beth sy'n digwydd yn Lloegr yn cael effaith ar beth sy'n digwydd yng Nghymru."

'Anodd i fyw'

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, mae'r myfyrwyr newyddiaduraeth yn dilyn datblygiadau'r etholiad yn ofalus.

Tra bo'r Blaid Werdd am ddileu ffioedd dysgu yn Lloegr yn gyfan gwbl, mae Plaid Cymru yn dweud eu bod nhw am dalu ffioedd myfyrwyr sy'n aros yng Nghymru ac yn astudio rhai pynciau. Mae polisi go debyg yn Lloegr gan UKIP.

Ond tydi hynny ddim wrth fodd Bryn Llewelyn Lewis: "Mae'n bwysig i fi bod diwydiant yn dod, ddim yn gyntaf, ond fyny yna.

"Dydw i ddim yn meddwl y byswn i'n newid cwrs jyst oherwydd maen nhw am dalu drosta i."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dioddef ar ôl torri addewid i beidio â chodi ffioedd dysgu.

Eleni, sefydlu adolygiad o addysg uwch ydi'r addewid, gan gynnwys costau byw myfyrwyr. Pethau fel rhent, bwyd a deunydd y cyrsiau - sydd wedi effeithio ar Freyer Howells.

"Ron i'n gweithio pob dydd drwy'r wythnos er mwyn gwneud fy addysg," meddai.

"Ron i'n gwneud y job er mwyn byw a doedd gen i ddim amser i fynd adref, doedd gen i ddim amser i fy nghariad, dim byd.

"Roedd o'n anodd i fyw."

Canllaw maniffestos: Addysg

Mae'r pwnc hwn yn cynnwys cyllid i ysgolion, dyraniad lleoedd mewn ysgolion, ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr prifysgol ac addysg y blynyddoedd cynnar.

'Prydain ddim yn groesawus'

Mae mewnfudo yn bwnc arall sydd yn y penawdau yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rôl bwysig yn sector addysg Cymru, a gweddill Prydain.

Maen nhw'n talu ffioedd uwch, yn aml ymhlith y mwyaf galluog, ac yn ehangu gorwelion diwyllianol y prifysgolion.

Ac yn ôl Derfel Owen, pennaeth gwasanaethau academaidd University College London, mae angen eu denu nhw i Brydain.

"Mae prifysgolion eisiau denu mwy o'r myfyrwyr gorau yn y byd i ddod i astudio yng Nghymru, a thrwy Brydain i gyd.

"Ond mae'r neges yn mynd allan trwy'r byd bod Prydain ddim yn groesawus i fyfyrwyr.

"Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf rydan ni wedi gweld haneru yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Brydain o India, a hynny ar yr un amser mae'r nifer o fyfyrwyr o India sy'n mynd i lefydd eraill yn y byd wedi dyblu.

"Dydyn ni ddim eisiau bod yn colli allan ar y sector yma."

Felly mae hi'n bosib iawn y gwelwn ni newidiadau mawr i brifysgolion Lloegr ar ôl yr etholiad.

Ac mi fydd sefydliadau Cymru yn cadw llygad fanwl iawn ar beth fydd yn digwydd.