Ffordd osgoi yn ailagor wedi damwain

Ffordd osgoi Ystradgynlais Image copyright Google

Mae ffordd osgoi ym Mhowys wedi ailagor yn dilyn damwain.

Digwyddodd y ddamwain ddydd Sadwrn ar ffordd osgoi Ystradgynlais, yr A4067, rhwng Ffordd Aberhonddu a'r droiad am Y Gurnos.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad a bu'n rhaid i geir gael eu dargyfeirio ar hyd y B4599 am gyfnod.